Neil McEvoy
Mae Cyngor Caerdydd yn darparu gwasanaeth cyfieithu ar y pryd i siaradwyr Cymraeg yng nghyfarfod llawn y Cyngor brynhawn yma.

Bydd y gwasanaeth ar gael, trwy gais o flaen llaw, ym mhob cyfarfod llawn misol.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Chwaraeon, Hamdden a Diwylliant, y Cynghorydd Huw Thomas: “Gwnaethom ymrwymo yn ein maniffesto i drin y Gymraeg a’r Saesneg ar y sail eu bod yn gyfartal a dyma’r cam cyntaf i gyflawni’r ymrwymiad hwnnw.”

Fis diwethaf honnodd y cynghorydd Neil McEvoy o Blaid Cymru fod cynghorwyr wedi gweiddi “speak English” arno pan siaradodd yn Gymraeg yn unig yn siambr y cyngor, a dywedodd bryd hynny ei bod hi’n “hollol annerbyniol nad oedd cyfleusterau cyfieithu ar gael.”

Gofynnodd am wasanaeth cyfieithu cyn y cyfarfod ac yn dilyn y digwyddiad dywedodd y cyngor y byddan nhw’n “codi’r mater gyda’r Chwipiaid a’r Pwyllgor Cyfansoddiadol a cheisio darparu’r gwasanaeth, os yn briodol, mewn cyfarfodydd i ddod.”

‘Gwneud nid dweud’

Heddiw dywedodd y Cynghorydd Huw Thomas mai “gwneud nid dweud yw gweledigaeth y weinyddiaeth Lafur hon.”

“Nid oes yr un weinyddiaeth yn y gorffennol wedi darparu cyfieithu ar y pryd yng nghyfarfodydd y Cyngor ac mae’r cam hwn yn pwysleisio ein hymroddiad i helpu’r Gymraeg ffynnu.”

“Mae’r Cyngor hefyd yn aros i weld adroddiad Comisiynydd y Gymraeg sy’n nodi’r safonau newydd o dan Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011, a fydd yn ein helpu i barhau i asesu’r ffordd orau o fodloni’r safonau hyn yn y dyfodol.”