Yr A55
Mae Gweinidog Trafnidiaeth Cymru, Carl Sargeant, wedi dweud y bydd yn rhoi £3 miliwn i wella lonydd y gogledd.

Bydd llawer o’r arian yn cael ei wario ar wneud gwaith cynnal a chadw ar yr A55 yn dilyn cau’r lon fis diwethaf oherwydd llifogydd.

Roedd y lon wedi ei chau i’r ddau gyfeiriad rhwng Llanfairfechan a Bangor oherwydd llifogydd.

Wedi’r llifogydd, fe orchmynnodd Carl Sargeant AC ymchwiliad i beth oedd wedi achosi i’r A55 fod ar gau am bron i ddeuddeg awr.

“Mae’r A55 yn rhan annatod o economi Gogledd Cymru,” meddai Carl Sargeant.

“Roedd cau’r A55 yn ddiweddar yn annerbyniol a byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i osgoi sefyllfaoedd tebyg rhag codi yn y dyfodol.”