Ann Clwyd
Mae’r Aelod Seneddol Ann Clwyd, oedd yn feirniadol iawn o’r driniaeth a gafodd ei diweddar ŵr gan nyrsys yn yr ysbyty lle bu farw, wedi dweud ei bod wedi derbyn llu o negeseuon gan bobl eraill ers iddi benderfynu rhoi cyhoeddusrwydd i’w stori.

Yn Nhŷ’r Cyffredin heddiw bu Ann Clwyd yn darllen rhai o’r negeseuon a gafodd gan deuluoedd pobl oedd wedi dioddef camdriniaeth gan nyrsys yn y Gwasanaeth Iechyd.

Mewn un datganiad a ddarllenwyd gan yr AS Llafur, dywedodd cyn gyfarwyddwr nyrsio ei bod wedi ymweld â ffrind oedd yn marw yn yr ysbyty ac wedi ei ddarganfod yn eistedd yn noeth mewn cadair oherwydd bod nyrsys yn methu dod o hyd i byjamas glân iddo.

Yn ôl datganiad arall, dywedodd merch bod ei thad wedi dioddef tri mis o “amarch, camdriniaeth a dioddefaint” ar ol gorfod mynd i’r ysbyty am driniaeth.

Dywedodd dwy ddynes arall eu bod nhw’n gandryll wrth glywed nyrsys yn cael eu disgrifio fel “angylion” ac nad oedd “morâl isel yn esgus am greulondeb”.

‘Beth sydd wedi mynd o’i le?’

Gofynnodd AS Cwm Cynon wrth yr Ysgrifennydd Gwladol: “Beth sydd wedi mynd o’i le?”

Dywedodd yr AS Ceidwadol Stephen McPartland y byddai nyrsys wedi eu “harswydo” o glywed am brofiadau o’r fath.

“Ni fyddai unrhyw un am gael eu trin yn y fath fodd,” meddai.

Ers i Ann Clwyd ddatgelu bod ei gwr, Owen Roberts, wedi cael ei drin gydag “oerni, dicter a difaterwch” gan nyrsys yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd cyn ei farwolaeth ym mis Hydref, dywedodd ei bod am gwrdd â chyrff sy’n cynrychioli cleifion a grwpiau ymgyrchu i weld sut gellir gwella safonau.