Neuadd y sir yng Nghaerfyrddin
Mae arbenigwr ar boblogaeth yn dweud bod angen ail-feddwl am y Fro Gymraeg yng nghyd-destun canlyniadau’r Cyfrifiad.

Mae’r Gymraeg yn iaith leiafrifol ym mhob un ond dau o 22 awdurdod lleol Cymru, ac mae Sir Gaerfyrddin a Cheredigion wedi colli 9,000 o siaradwyr Cymraeg mewn deng mlynedd.

Dywed yr Athro Rhys Jones o adran ddaearyddiaeth Prifysgol Aberystwyth bod angen ail-ystyried daearyddiaeth y Gymraeg a’r term ‘Bro Gymraeg.’

“Mae’r ffigurau yn atgyfnerthu tuedd sydd wedi bod yn digwydd ers sbel,” meddai Rhys Jones.

“Mae’r Fro Gymraeg yn derm defnyddiol sy’n gallu bod yn sbardun ar gyfer gweithredu o blaid yr iaith, ond mae’n derm sy’n ein cyflyru ni i feddwl mai dim ond un ardal benodol sy’n werth ei hachub,” meddai.

“Bellach gellir ystyried gorllewin Caerdydd yn gymaint rhan o’r Fro Gymraeg â siroedd y gorllewin.”

‘Rhoi cefnogaeth ariannol i fyfyrwyr adael Cymru’

Dywed yr Athro Rhys Jones ei fod yn cytuno gyda Carwyn Jones fod llawer o gyfrifoldeb ar siaradwyr Cymraeg i’w siarad hi yn gymdeithasol, ond dywedodd fod un o bolisïau’r Llywodraeth yn “gwanychu’r iaith.”

“Pam ein bod ni’n rhoi cefnogaeth ariannol i fyfyrwyr Cymru i fynd i astudio yn Lloegr?,” meddai, gan gyfeirio at grantiau Llywodraeth Cymru tuag at ffioedd myfyrwyr o Gymru sy’n astudio yn Lloegr.

“Mae yna lawer o sôn am brif ffrydio’r Gymraeg, ond dylech chi ddim wedyn fod yn ei gwneud hi’n haws i bobol ifanc, alluog adael y wlad,” meddai Rhys Jones.

Dywedodd fod angen hyrwyddo’r Gymraeg mewn modd cadarnhaol, a’i gwneud hi’n atyniadol i bobol.

“Rhaid portreadu’r Gymraeg fel rhywbeth secsi  ac nid fel hen fam-gu sydd ar fin marw,” meddai.

Y bore ma ar BBC Radio Wales roedd y sylwebydd a’r cyn-Aelod Cynulliad Rod Richards wedi dadlau nad yw’r Gymraeg yn iaith fodern, fywiog, a bod ymgyrchwyr yr iaith yn rhy ynghlwm gyda syniadau gwrth-Seisnig, gweriniaethol, a heddychol.