Yn dilyn y newyddion drwg ynglŷn â’r Gymraeg yng nghanlyniadau Cyfrifiad 2011 ddoe, mae ymgynghorydd ar y Gymraeg wedi galw ar Lywodraeth Cymru  i sefydlu comisiwn i edrych ar sefyllfa’r iaith.

Cefin Campbell sefydlodd y Fenter Iaith gyntaf yng Nghwm Gwendraeth a daw ei sylwadau ar ôl i ffigyrau’r Swyddfa Ystadegau ddangos bod canran y siaradwyr Cymraeg wedi cwympo i 19%, yn ôl i’r hyn ydoedd pan sefydlwyd y Fenter yn 1991.

Dywedodd Cefin Campbell wrth Golwg360 ei bod yn bosib bod gormod o sylw wedi cael ei roi yn y blynyddoedd diwethaf gan fudiadau a chymdeithasau ar ennill “brwydrau cyfansoddiadol”.

“Mae perygl bod gormod o sylw wedi bod i ddeddf iaith newydd, ac mae hynny yn bwysig.

“Ond efallai ei fod wedi  bod ar draul ymgyrchu sydd efallai’n bwysicach ar ddiwedd y dydd fel y defnydd o Gymraeg mewn cymunedau ac ysgolion a realiti’r sefyllfa yng nghefn gwlad Cymru lle nad oes arian na swyddi i gadw pobl ifanc yno.”

Ychwanegodd ei fod eisiau  galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu comisiwn arbennig i edrych ar sefyllfa’r Gymraeg yn yr ardaloedd traddodiadol, yn y cadarnleoedd “a datblygu strategaeth sy’n mynd i geisio cysylltu dyfodol yr iaith gyda’r economi, gydag addysg, a gyda mewnlifiad hefyd a phatrymau allfudo a newid mewn poblogaeth.

“Mae’n rhaid i ni fynd i’r afael a’r prif ffactorau yna a cheisio datblygu atebion a a chynlluniau clir sy’n mynd i’r afael a’r ffactorau arbennig o bwysig yna.”

Galw am ragor o adnoddau

Ac mae sefydliadau a phleidiau eraill wedi ymuno yn y ddadl dros y Gymraeg hefyd.

Mae Mentrau Iaith Cymru hefyd yn galw am ragor o adnoddau i hyrwyddo defnydd o’r iaith “ac i bawb weithio ar y cyd a chael gorolwg holistaidd o dyfu niferoedd siaradwyr Cymraeg.”

Dywedodd llefarydd ar ran Mentrau Iaith Cymru: “Mae angen adnoddau sylweddol ar frys er mwyn sicrhau nad oes gostyngiad pellach yn  nifer y siaradwyr Cymraeg yn y dyfodol. Mae’r Gymraeg nawr yn iaith leiafrifol mewn ardaloedd o Gymru nad oeddwn yn meddwl oedd hyn yn bosib cynhedlaeth yn ol.”

Ychwanegodd:  “Mae’r twf yn y niferoedd sydd yn medru’r Gymraeg yn ystod oedran ysgol gynradd yn galonogol, ac yn dangos bod angen buddsoddiad sylweddol i sicrhau bod sgiliau Cymraeg i’r grwp oedran yna. Ond mae canlyniadau y cyfrifiad yn dangos bod angen buddsoddi i’r un lefelau i bob oedran yng Ngymru. Mae hefyd yn dangos nad yw buddsoddi mewn addysg yn unig yn ddigon i gynhyrchu siaradwyr Cymraeg.”

‘Her enfawr’

Dywedodd  Comisiynydd y Gymraeg, Meri Huws bod “graddfa’r gostyngiad yn y siaradwyr Cymraeg yn siroedd Caerfyrddin a Cheredigion yn her enfawr.”

Ac yn ôl  Cymdeithas yr Iaith mae’r “Gymraeg mewn argyfwng” gan ychwanegu bod y ffigyrau’n adlewyrchu’n wael ar Lywodraeth Lafur Cymru.

Mae Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith wedi gofyn am gyfarfod brys gyda’r Prif Weinidog Carwyn Jones.

Dywedodd Robin Farrar: “Rwy’n gobeithio y bydd Carwyn Jones yn trefnu cyfarfod gyda ni ar frys oherwydd bod angen camau newydd, dewr a chlir gan y Llywodraeth ar bob lefel i wrth-droi’r dirywiad a ddangosir yng nghanlyniadau’r Cyfrifiad.”

Pleidiau’n beio’r Llywodraeth

Mae’r Gweinidog â chyfrifoldeb am yr iaith Gymraeg, Leighton Andrews, wedi gwadu bod sefyllfa’r iaith yn argyfyngus yn 2011 ond mae wedi cydnabod bod problem yng nghefn gwlad.

Dywedodd ei bod hi’n amser cydweithio gydag awdurdodau lleol rhai o’r ardaloedd hynny er mwyn gwella’r sefyllfa.

Ond mae’r gwrthbleidiau o’r farn bod gan Lywodraeth Cymru gyfrifoldeb dros y dirywiad.

Meddai Suzy Davies, llefarydd y Ceidwadwyr yng Nghymru dros yr Iaith Gymraeg: “Yn ystod ei 13 mlynedd mewn grym, strategaeth Llywodraeth Lafur Cymru ynglŷn â’r iaith Gymraeg oedd canolbwyntio ar gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg yng Nghyfrifiad 2011. Mae’n amlwg bellach bod y strategaeth hon wedi methu.”

Dywedodd Aled Roberts o’r Democratiaid Rhyddfrydol hefyd bod strategaeth iaith Llywodraeth Cymru yn methu a’u bod nhw’n “dda am greu strategaethau, ond ddim cystal am ei gwireddu.”

Mae Plaid Cymru wedi galw am gamau cryf a phendant i gefnogi’r iaith Gymraeg ledled Cymru.

Er y cynnydd yn nifer y siaradwyr mewn ardaloedd megis Caerdydd, Caerffili a Bro Morgannwg, dywed y blaid ei bod yn “pryderu’n enbyd” am y cwymp sylweddol yn nifer a chanran y siaradwyr yn siroedd y gorllewin, yn ogystal â’r diffyg cynnydd mewn ardaloedd eraill o Gymru.

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood AC: “Mae’r rhain yn arwyddion rhybudd clir am ddyfodol yr iaith, a rhaid cael ymateb pendant.

“Rhaid i ni ofalu bod y Gymraeg yn cael ei defnyddio nid yn unig yn yr ystafell ddosbarth ond yn y cartref, yn y gwaith, ac mewn sefyllfaoedd cymdeithasol ar hyd a lled y wlad”