Bae Caerfyrddin
Sir Gaerfyrddin oedd un o gadarnleoedd yr iaith Gymraeg yn ôl cyfrifiad 2001, ond deng mlynedd yn ddiweddarach, mae’r sir wedi gweld mwy o gwymp yn nifer y siaradwyr Cymraeg nag unman arall yng Nghymru.

Roedd dros hanner poblogaeth Sir Gaerfyrddin yn dweud eu bod nhw’n gallu siarad Cymraeg yn 2001, ond yn ôl y canlyniadau a gyhoeddwyd heddiw, dim ond 43.9% o’r boblogaeth sy’n dal i fedru’r iaith.

Heno, bydd rhaglen materion cyfoes Y Byd ar Bedwar yn ymchwilio i sefyllfa rhai o gadarnleoedd traddodiadol yr iath, ac yn gofyn beth sydd wedi digwydd i’r siaradwyr Cymraeg.

Gallu’r Gymraeg – ond ddim yn ei siarad

Un o’r rheiny sydd wedi bod yn dyst i’r dirywiad ieithyddol yn Sir Gaerfyrddin dros y 10 mlynedd diwethaf yw Christian Jones o Frynaman.

Yn bedair oed, roedd Christian Jones yn uniaith Gymraeg, ond yn 22 oed mae e’n dweud ei fod bellach wedi colli’r iaith bron yn gyfan gwbwl.

“Dwi’n methu siarad Cymraeg rhagor, dwi jyst wedi ’i golli e,” meddai, wrth siarad â’r Byd ar Bedwar.

“Dwi’n nabod pobol sy’n gallu siarad Cymraeg, ond r’yn ni gyd jyst yn siarad Saesneg gyda’n gilydd.”

Mudo hefyd yn broblem

Wrth gyhoeddi’r canlyniadau heddiw, dywedodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol fod mudo allan o Gymru, yn ogystal ag o fewn Cymru, hefyd wedi cyfrannu at ostyngiad yn nifer y siaradwyr Cymraeg yn y cadarnleoedd traddodiadol.

Un o’r ardaloedd gyda’r canran uchaf o siaradwyr Cymraeg yn ôl cyfrifiad 2001 oedd pentref Ysbyty Ifan – ond fe fydd ymchwil arbennig gan Y Byd ar Bedwar heno yn datgelu mai ychydig dros hanner poblogaeth y pentref sydd bellach yn dal i fedru’r iaith.

Yn ôl un a gafodd ei fagu yno, ond sydd bellach wedi symud i Gaerdydd, mae’r diffyg cyfleon gyrfa yng nghefn gwlad Cymru yn gyrru pobol ifanc oddi yno.

“Mae Caerdydd yn wahanol iawn, mae o llawer mwy cyffrous, ac mae llawer mwy i wneud yma,” meddai Emyr Davies, sy’n 22 oed.

Ac mae’n dweud wrth Y Byd ar Bedwar fod symud i’r brifddinas hefyd wedi effeithio ar ei ddefnydd o’r Gymraeg

“Does gen i ddim ffrindiau sy’n siarad Cymraeg yma yn y de, ac weithiau dwi’n mynd am gyfnod hir heb siarad Cymraeg.”

Polisiau iaith

Wrth ymateb i sefyllfa’r Gymraeg, dywedodd y Prif Weinidog Carwyn Jones wrth Y Byd ar Bedwar ei fod yn cydnabod y cwymp yn y cadarnleoedd, ond bod rhaid cofio bod cynnydd wedi bod yn nifer y siaradwyr Cymraeg mewn llefydd fel Caerdydd, Caerffili, Bro Morgannwg a Sir Fynwy.

“Odi fe’n rhwydd i droi pethe rownd? Nagyw. Ond bydde pethe wedi gallu bod yn waeth se ddim ein polisie iaith gyda ni, a se ddim arian wedi cael ei roi mewn i ddatblygu’r iaith,” meddai.

Y Byd ar Bedwar, heno, 9pm, ar S4C.