“Mae’r Gymraeg mewn argyfwng”, yn ol Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wrth ymateb i ystadegau’r Cyfrifiad.

Mae’r ffigurau’n dangos bod 562,000 (19.01%) o bobl yng Nghymru dros 3 oed yn siarad Cymraeg o’i gymharu â 582,368 (20.76%) yn 2001, gostyngiad o 2.75%.

Dywedodd y Gymdeithas y byddan nhw’n lansio ‘maniffesto byw’ wythnos yma mewn ymateb i’r canlyniadau, cyn cynnal rali yng Nghaernarfon ddydd Sadwrn, 15 Rhagfyr, i ganolbwyntio ar dynged yr iaith ar lefel gymunedol.

Dywedodd Robin Farrar, Cadeirydd newydd-etholedig Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: “Mae’r Gymraeg yn wynebu argyfwng. Mae’r newyddion hyn yn adlewyrchu’n wael iawn ar Lywodraeth Cymru a osododd darged i gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg o 5% dros y degawd.

“Dros y 10 mlynedd diwethaf, maen nhw wedi methu cefnogi’r Gymraeg yn y ffordd y dylen nhw. Mae’r gostyniad yn holl siroedd y Gorllewin yn fater o bryder dirfawr. Mae pobl Cymru yn gefnogol iawn o’n hiaith unigryw, ond dydy’r Llywodraeth ddim yn gwireddu eu huchelgais.

“Credwn mai dyhead rhan helaeth o bobl Cymru yw gwlad lle gallwn ni i gyd fyw ein bywydau yn Gymraeg; deallwn hefyd mai sicrhau cryfder cymunedau Cymraeg eu hiaith yw’r unig ffordd o wireddu’r weledigaeth honno.

“Mae angen cyfres o bolisïau clir a dewr gan Lywodraeth Cymru ym mhob maes, ond yn arbennig ym meysydd addysg, cynllunio, tai a’r gweithle er mwyn gwrth-droi’r dirywiad.  Nid oes diben eistedd yn ôl a derbyn hyn: gydag ymgyrchu caled ac ewyllys gwleidyddol, gallwn ni gydweithio a newid ein tynged.”