Bu farw gŵr oedrannus mewn damwain yn Sir Benfro neithiwr.

Digwyddodd y ddamwain rhwng dau gar – Hyundai arian ac Audi A4 glas – ar yr A487 rhwng Tŷ Ddewi a phentref Mathri tua 6:25pm.

Dywedodd yr heddlu bod gyrrwr yr Hyundai yn 79 mlwydd oed a’i fod wedi marw yn y fan a’r lle. Cafodd gyrrwr yr Audi ei gludo i Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg, Hwlffordd gydag anafiadau difrifol.

Mae Heddlu Dyfed Powys yn apelio ar unrhyw lygad dystion i gysylltu â nhw ar 101.