Bydd y Swyddfa Ystadegau heddiw yn cyhoeddi nifer y siaradwyr Cymraeg yng Nghymru yn seiliedig ar Gyfrifiad 2011.

Bydd niferoedd a chanrannau’r siaradwyr Cymraeg ar gyfer Cymru gyfan a phob awdurdod lleol yn cael eu cyhoeddi, ond bydd rhaid disgwyl tan Ionawr 30 i gael yr ystadegau fesul cymuned.

Mae’n bosibl y bydd yr ystadegau’n nodi fod llai na hanner trigolion Ceredigion a Sir Gaerfyrddin yn siarad Cymraeg bellach. Rhwng 1991 a 2001 disgynnodd y ganran o siaradwyr Cymraeg yng Ngheredigion o 59.1% i 52%, ac yn Sir Gaerfyrddin o 54.9% i 50.3%.

Mae Cymdeithas yr Iaith eisoes wedi datgan eu pryder y bydd y Cyfrifiad yn dangos fod y Gymraeg wedi colli tir yn ei chadarnleoedd traddodiadol, ac na fydd dyfodol i’r iaith heb gymunedau daearyddol ble mae canran uchel o siaradwyr Cymraeg.

Rhwng 1991 a 2001 cododd y ganran o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru gyfan o 18.7% i 20.8%, a bu cynnydd o 74,000 yn y niferoedd.

Bydd y Swyddfa Ystadegau hefyd yn cyhoeddi niferoedd y siaradwyr Cymraeg fesul grŵp oedran, ac yn datgelu ffigurau ar gyfer cenedligrwydd. Am y tro cyntaf roedd Cyfrifiad 2011 yn cynnwys blwch er mwyn i bobol allu nodi eu bod nhw’n Gymry.