Mae cadeirydd newydd Cymdeithas yr Iaith wedi addo y bydd sicrhau dyfodol cymunedau Cymraeg yn flaenoriaeth iddo.

Cafodd Robin Crag Farrar, 27 oed, ei ethol yn Gadeirydd newydd y mudiad ddoe. Yn wreiddiol o Fynydd Llandygái, Gwynedd, mae’n gweithio ar brosiectau’n ymweud â’r economi a’r amgylchedd i Biosffer Dyfi ym Machynlleth.

“Mae dyfodol y Gymraeg yn dibynnu ar gymunedau Cymraeg eu hiaith, a dyna yw ein prif flaenoriaeth fel Cymdeithas,” meddai wrth gael ei ethol ddoe.

“Mae’r Llywodraeth yn honni bod cynaladwyedd yn beth mawr iddynt ar hyn o bryd, ond eto i gyd rydyn ni wedi gweld droeon, a thros yr wythnos ddiwethaf yn enwedig, nad ydynt yn deall pwysigrwydd y Gymraeg yng nghyswllt cynaladwyedd. Dydy’r Gymraeg ddim yn flaenoriaeth iddynt ac mae’n rhaid i hynny newid.”

‘Her i bob un ohonom’

“Mae sicrhau dyfodol cynaliadwy i gymunedau Cymraeg yn her nid yn unig i’r Llywodraeth, ond yn her hefyd i bob un ohonom weithio o fewn ein cymunedau,” ychwanegodd.

“Dyna fydd un o’n galwadau yn y cyntaf o gyfres o ralïau dros y misoedd nesaf. Bydd Rali’r Cyfrif yng Nghaernarfon ddydd Sadwrn yma yn gyfle nid yn unig i bobl ddatgan eu cefnogaeth i gymunedau Cymraeg, ond hefyd i ddod at ei gilydd i greu’r cynlluniau bydd yn diogelu a chryfhau eu cymunedau.”

Wrth ddechrau ar ei swydd fel cadeirydd, mae’n cymryd lle Bethan Williams, sy’n cychwyn fel Swyddog Maes Dyfed i’r Gymdeithas.

“Rwy’n dymuno’n dda i Robin ac yn edrych ymlaen at gydweithio gyda fe yn fy swydd newydd,” meddai.

“Hoffwn ddiolch o waelod calon i bawb sydd wedi bod yn rhan o’n hymgyrchoedd yn ystod fy nghadeiryddiaeth am eu gwaith.”