Fe fydd effaith toriadau George Osborne yn dod o dan y chwyddwydr heddiw wrth i’r Blaid Lafur honni mai teuluoedd sy’n gweithio fydd ar eu colled.

Mae disgwyl i nifer o gyrff, gan gynnwys y Sefydliad Astudiaethau Ariannol, ymateb i Ddatganiad yr Hydref y Canghellor sy’n rhybuddio y bydd y cyfnod o galedi yn parhau tan 2018.

Wrth gyhoeddi ei ddatganiad yn y Senedd ddoe, dywedodd George Osborne na fyddai’n cyrraedd ei darged i ostwng y diffyg ariannol a bod yr economi yn dal i wynebu problemau difrifol.

Serch hynny dywedodd bod Prydain “ar y trywydd iawn ac fe fyddai troi nôl rŵan yn drychineb.”

Roedd hefyd yn cydnabod bod rhagolygon ar gyfer twf yr economi yn anghywir. Yn ôl rhagolygon diweddaraf y Swyddfa Gyfrifoldeb Cyllidol mae disgwyl i’r economi grebachu 0.1% eleni o’i gymharu â rhagolygon blaenorol o dwf o 0.8%.

Teuluoedd yn colli £279 y flwyddyn

Cyhoeddodd y bydd cynnydd o 1% yn unig, llai na graddfa chwyddiant, mewn rhai budd-daliadau ar gyfer y di-waith dros y tair blynedd nesaf, ac 1% mewn budd-dal plant am ddwy flynedd hyd at fis Ebrill 2014.

Ond fe fydd budd-dal gofalwyr a budd-dal anabledd yn codi yn unol â graddfa chwyddiant. Dywedodd George Osborne nad oedd am weld teuluoedd sydd ar fudd-daliadau ar eu hennill o’i gymharu â theuluoedd sy’n gweithio.

Ond mae Llafur yn dweud y bydd y newidiadau i fudd-daliadau a threth yn golygu y bydd teulu gyda phlant sy’n ennill £20,000 y flwyddyn yn colli £279 y flwyddyn o fis Ebrill nesaf.

Dywedodd llefarydd y Blaid Lafur Ed Balls bod y cyhoeddiad ddoe yn datgelu “gwir raddfa methiant economaidd y Llywodraeth” gyda’r economi yn crebachu a’r diffyg yn cynyddu.