Mae Asiantaeth yr Amgylchedd yn cynghori pobl i fod yn wyliadwrus gan fod posibilrwydd o lifogydd mewn rhannau o Gymru yfory.

Mae’r rhagolygon tywydd yn darogan band o law trwm fydd yn cyrraedd siroedd gorllewinol Cymru yn gynnar bore Iau.

Mae’n debygol o effeithio ar siroedd Caerfyrddin, Sir Benfro, Ceredigion a rhannau o Wynedd ac fe fydd yn parhau hyd at nos Iau.

Meddai’r Asiantaeth: “Mae tir eisoes yn wlyb ers y glaw trwm a gafwyd fis diwethaf ac y gallai unrhyw law pellach fynd mewn i afonydd a nentydd yn sydyn.

“Gallai hyn arwain at rybuddion llifogydd yn cael eu cyhoeddi yfory”.