Ysgrifennydd Gwladol Cymru David Jones
Yn ei ddatganiad prynhawn ma fe gyhoeddodd George  Osborne y bydd Llywodraeth Cymru yn elwa o £227 miliwn o arian cyfalaf.

Mae hyn yn golygu y bydd cyfanswm yr arian ychwanegol i Lywodraeth Cymru yn ystod y cyfnod adolygu gwariant yn codi i £674 miliwn.

Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru David Jones wedi croesawu’r mesurau gafodd eu cyhoeddi gan y Canghellor heddiw.

Dywedodd y byddai busnesau ac unigolion yng Nghymru yn elwa o’r penderfyniad i ganslo’r cynnydd arfaethedig o 3c y litr mewn treth ar danwydd ym mis Ionawr 2013. Bydd yn golygu bod gyrwyr yn arbed £40 y flwyddyn, a chludwyr yn arbed £1,200 y flwyddyn.

Hefyd, meddai, bydd 193,000 o fusnesau bach a chanolig yng Nghymru yn elwa o’r cynnydd dros dro yn y Lwfans Buddsoddi  Blynyddol o £25,000 i £250,000 am ddwy flynedd, yn ogystal â gostyngiad o 1% yn y dreth gorfforaethol i 21% o 2014.

Bydd cynnydd yn y Lwfans Personol i £9,440 yn golygu na fydd 13,000 o bobl yng Nghymru yn gorfod talu treth, gan elwa 1.1 miliwn o bobl yng Nghymru meddai David Jones.

Bydd ardaloedd menter yng Nglyn Ebwy a Dyfrffordd Aberdaugleddau hefyd yn elwa o lwfansau cyfalaf newydd er mwyn ehangu eu safleoedd.

“Mae’r Canghellor heddiw wedi tanlinellu ymrwymiad y Llywodraeth i sefydlogi’r economi a hybu twf ar draws y DU,” meddai David Jones.

‘Rhaid i Lywodraeth Cymru gymryd camau pendant’

Mae arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru Kirsty Williams hefyd wedi croesawu’r cyhoeddiad gan ddweud y bydd dros filiwn o bobl yng Nghymru yn elwa.

“Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yn sicrhau bod y rhai hynny sydd ar incwm isel yn cadw cymaint o’u henillion ag sy’n bosib.

“Yn hytrach na chwyno’n barhaol ynglŷn â’u cyllid, fe ddylai Llywodraeth Lafur Cymru nawr roi pobl Cymru’n gyntaf a chymryd camau pendant i hybu’r economi.”

Oxfam: ‘Y bobl dlotaf yn talu am fethiant economaidd’

Serch hynny, nid pawb oedd yn croesawu’r cyhoeddiad heddiw.

Wrth ymateb i ddatganiad y  Canghellor dywedodd Julian Rosser, pennaeth Oxfam Cymru, mai’r rhai tlotaf o fewn cymdeithas fyddai’n dioddef gwaethaf, er gwaethaf addewidion George Osborne i dargedu’r rhai hynny oedd yn osgoi talu trethi.

“Fe fydd y toriadau diweddaraf i fudd-daliadau yn tynnu’r tir o dan draed y rhai hynny sydd ar y dibyn.

“Fe ddylai’r Llywodraeth fod yn gwneud mwy i dargedu’r rhai sydd ddim yn talu eu trethi yn hytrach na gwneud i’r bobl dlotaf dalu am ei methiant economaidd.”

Treth ar danwydd – ymateb FUW

Mae undeb amaethwyr Cymru yr FUW wedi croesawu’r cyhoeddiad y bydd y cynnydd mewn treth ar danwydd yn cael ei ganslo, ond dywedodd y dylai’r Llywodraeth fod wedi mynd gam ymhellach a gostwng y dreth ar danwydd.

“Mae’r FUW yn credu bod angen gostwng yn sylweddol y dreth ar danwydd er mwyn  gostwng  pris tanwydd,” meddai llywydd yr  undeb Emyr Jones.

“Mae’r gost uchel am danwydd, gan gynnwys disel coch, yn cael effaith andwyol ar amaeth ac economi cefn gwlad,” meddai. “Felly, er ein bod ni’n croesawu canslo’r dreth ar danwydd, fe fyddwn yn parhau i ymgyrchu am ostwng y dreth.”