Asbestos
Mae Aelod Cynulliad wedi rhybuddio bydd yna lai o fonitro asbestos mewn adeiladu o ‘risg isel’ oherwydd penderfyniad Llywodraeth Prydain i dorri nôl ar fesurau iechyd a diogelwch.

Dywedodd AC Pontypridd, Mick Antoniw: “Bydd nifer o lefydd, gan gynnwys ysgolion, ddim yn cael eu harolygu mor drwyadl ag yn y gorffennol,” meddai.

“Mae yna beryg y bydd y monitro, yr arolygu ac asesiad risg asbestos yn cael ei israddio dros amser.”

Er bod yna fesurau a systemau caeth yn eu lle er mwyn delio gydag asbestos mae’n dweud bod angen gwneud yn siŵr bod cyflogwyr yn eu gweithredu.

Ond mae’n croesawu penderfyniad y Gweinidog Addysg, Leighton Andrews i gynnal arolwg o ysgolion yng Nghymru ar ôl i Ysgol Cwmcarn yng Nghaerffili orfod cau am fod asbestos wedi ei ddarganfod yno.

Daw ei sylwadau wrth i Aelodau’r Cynulliad drafod cynlluniau a allai arwain at ddeddf newydd lle bydd cyflogwyr neu yswirwyr yn gorfod talu’r Gwasanaeth Iechyd am drin cleifion sydd â salwch yn ymwneud ag asbestos.

Mae’r syniad wedi ei gyflwyno gan Mick Antoniw, sydd eisiau i Lywodraeth Cymru gael yr hawl i adennill y £2 filiwn y flwyddyn sy’n cael ei wario ar gleifion asbestos.