Fe gadarnhaodd y Weinyddiaeth Amddiffyn fod milwr wedi cael ei anafu’n ddifrifol ar eu maes hyfforddi yng Nghastellmartin yn Sir Benfro.

Fe gafodd ei gludo i’r ysbyty gydag anafiadau i’w frest, ond does dim manylion eto am achos y niwed na’i gyflwr.

Mae’n ymddangos ei fod yn cymryd rhan mewn ymarferiadau gyda cherbydau milwrol ar y safle yn ne Sir Benfro.

Mae’r Weinyddiaeth yn dweud eu bod yn cynnal ymchwiliad ac nad yw hi’n briodol rhoi sylw ar hyn o bryd.

Fe fu’n rhaid iddyn nhw gynnal ymchwiliad arall yn yr un safle ar ôl digwyddiad ym mis Ionawr pan gafodd milwr ei saethu a’i anafu’n ddifrifol.