George Osborne
Fe fydd George Osborne yn rhybuddio heddiw bod angen gweithredu drastig i fynd i’r afael a gorwariant y Llywodraeth.

Mewn datganiad llwm heddiw, fe fydd y Canghellor yn cadarnhau bod adrannau Whitehall wedi cael gorchymyn i wneud arbedion i ariannu prosiectau gwerth £5 biliwn er mwyn rhoi hwb i’r economi.

Mae disgwyl iddo gyfaddef hefyd bod twf araf yr economi yn golygu y bydd yn cymryd llawer hirach i fynd i’r afael a’r diffyg ariannol a’i fod yn debygol na fydd y Llywodraeth Glymblaid yn cwrdd â’i tharged i leihau dyledion y sector cyhoeddus erbyn 2015-16.

Yn y cyfamser mae Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones ac arweinwyr gweinyddiaethau datganoledig eraill wedi galw ar y Canghellor am ragor o fuddsoddiad cyfalaf er mwyn hybu’r economi.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymuno ag arweinwyr llywodraethau’r Alban a Gogledd Iwerddon i rybuddio Llywodraeth y DU y “byddai toriadau gwariant i fuddsoddiad cyfalaf yn y sector cyhoeddus yn peri risg sylweddol i dwf gwledydd y DU.”

‘Angen hwb’

Maen nhw’n galw ar George Osborne i roi hwb i brosiectau isadeiledd yn y sector cyhoeddus “ar frys” drwy fuddsoddiad ychwanegol er mwyn hybu’r economi.

Dywedodd Carwyn Jones ei bod yn bryd i Lywodraeth y DU wynebu’r ffaith mai ychydig iawn o dwf sydd wedi bod yn yr economi a bod hynny’n cael effaith ar swyddi a chymunedau.

“Ry’n ni wedi pwyso ar Lywodraeth y DU droeon am ragor o gefnogaeth ar gyfer prosiectau cyfalaf yng Nghymru a fyddai’n elwa gan fuddsoddiad o’r fath.

“Dyna pam ry’n ni wedi ymuno a’r Alban a Gogledd Iwerddon i alw ar y Canghellor i roi’r hwb sydd ei angen ar frys.”

£500m ar gyfer cynlluniau cyfalaf

Ddoe, fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru cynlluniau i godi £500 miliwn fydd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer cynlluniau cyfalaf gan gynnwys prosiect ffordd newydd ym Mlaenau’r Cymoedd ac ysgolion.

Wrth i Aelodau Cynulliad gytuno  ar gyllideb derfynol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2013-14, cyhoeddodd Jane Hutt gynlluniau i godi arian o ffynonellau preifat er mwyn dod o hyd i tua £300m er mwyn lledu dwy ran olaf yr A465.

Golyga hyn y bydd y ffordd o Gastell Nedd i’r Fenni yn lôn ddeuol erbyn 2020, yn ôl y disgwyl.

Hefyd, cyhoeddodd y Gweinidog y byddai’n ymestyn Menter Fenthyca Llywodraeth Leol, mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol, fydd yn dwyn buddsoddiad gwerth tua £200m yn ei flaen.

Dywedodd y byddai’r cynllun hwn yn golygu  bod Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif yn cael ei gyflawni ddwy flynedd yn gynt na’r disgwyl.