Mae grŵp o arbenigwyr yn dod at ei gilydd i gynllunio system drafnidiaeth newydd ar gyfer y De-ddwyrain.
Nod y tasglu newydd yw creu un drefn integredig sy’n cynnwys rheilffyrdd, rheilffyrdd ysgafn, bysiau a cherdded a beicio.
Yn ôl y Gweinidog Trafnidiaeth Carl Sargeant, y nod yw adeiladu ar y ffaith fod y brif lein reilffordd yn y De cael ei thrydaneiddio a’r nod yw cysylltu ardaloedd llai breintiedig, fel y Cymoedd, gyda Chaerdydd.
Mae hefyd yn gofyn i Taith, consortiwm trafnidiaeth y Gogledd, ystyried datblygiadau yn y Gogledd-ddwyrain hefyd gyda’r pwyslais ar gael gwell cysylltiadau rheilffordd oddi yno i ddinasoedd fel Lerpwl a Manceinion.
‘Allweddol’
“Mae trefn drafnidiaeth dda’n allweddol ar gyfer twf economaidd, tegwch cymdeithasol a gostwng tlodi,” meddai Carl Sargeant.
“Rhaid i wasanaethau fod yn fodern a chynaliadwy ac mae yna gyfle anferth i drawsnewid systemau trafnidiaeth i gwrdd â’r dyhead yma.”
Mae’r Tasglu yn y De’n cynnwys cynrychiolwyr y diwydiannau trafnidiaeth, llywodraeth leol, yr undebau a’r corff teithio ‘gwyrdd’ Sustrans.
Y nod yw cael argymhellion yn gynnar yn 2013.