Mae cyllideb Llywodraeth Cymru o £15 biliwn ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf wedi cael ei gymeradwyo gan Aelodau’r Cynulliad heno.

Ac mae Gweinidog Cyllid Llywodraeth Cymru wedi datgleu cynlluniau i godi £500 miliwn fydd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer cynlluniau cyfalaf gan gynnwys prosiect ffordd newydd ym Mlaenau’r Cymoedd ac ysgolion.

Yn ystod dadl yn y Cyfarfod Llawn ar y Gyllideb Derfynol ar gyfer 2013-14, cyhoeddodd Jane Hutt gynlluniau i godi arian o ffynhonellau preifat er mwyn dod o hyd i tua £300m er mwyn lledu dwy ran olaf yr A465.

Golyga hyn y bydd y ffordd o Gastell Nedd i’r Fenni yn lôn ddeuol erbyn 2020, yn ol y disgwyl.

Hefyd, cyhoeddodd y Gweinidog y byddai’n ymestyn Menter Fenthyca Llywodraeth Leol, mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol, fydd yn dwyn buddsoddiad gwerth tua £200m yn ei flaen.

Dywedodd y byddai’r cynllun hwn yn golygu y bod Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif yn cael ei gyflawni ddwy flynedd yn gynt na’r disgwyl.

Wrth siarad am y ddau gynllun cyllid newydd dywedodd y Gweinidog: “Mae’r mentrau a gyhoeddais heddiw yn dangos ein bod yn dal yn benderfynol o fuddsoddi mewn seilwaith ledled Cymru, er gwaethaf y toriadau a osodwyd arnom gan Lywodraeth Prydain.

“Byddwn yn buddsoddi tua £200m yn Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif rhwng 2014-15 a 2016-17 drwy ymestyn y Fenter Benthyca Llywodraeth Leol. Mae hyn yn golygu y byddwn yn darparu’r Rhaglen yn llawn erbyn 2018-19.

“Ar yr un pryd byddwn yn defnyddio dull o fuddsoddi di-ddifidend ar gyfer buddsoddiad o tua £300m yn adrannau 5 a 6 o’r A465. Mae hyn yn golygu y byddwn wedi darparu ffordd ddeuol lawn cyn 2020. Drwy ddefnyddio rhaglen o fuddsoddi di-ddifidend byddwn yn sicrhau bod y buddsoddiad yn denu cyllid sector preifat cystadleuol ac arbenigedd, a hynny gan drosglwyddo risg.”