Mae arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru wedi dweud fod rhaid i fater emosiynol rhoi organau gael ei “thrin yn ofalus” gan Lywodraeth Cymru.

Croesawodd Kirsty Williams gyhoeddiad y Bil Trawsblannu Dynol heddiw ond dywedodd fod yn rhaid i’r Llywodraeth gyfathrebu gyda’r cyhoedd os yw’r Bil am gael ei basio yn y Senedd.

“Mae Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn gefnogol i gynllun optio-allan o roi organau, a’i botensial i arbed miloedd o fywydau, ond mae’n rhaid i ni sicrhau fod pobol yng Nghymru yn gwybod yn hollol beth fydd goblygiadau’r system a sut bydd yn effeithio ar bawb,” meddai Kirsty Williams.

Mae’r Llywodraeth yn lansio ymgyrch gyhoeddusrwydd heddiw er mwyn esbonio sut bydd y system rhoi organau yn gweithio, a rôl perthnasau yn y broses.

Plaid Cymru yn croesawu’r Bil

Mae Plaid Cymru wedi croesawu’r Bil hefyd, gan ddweud y buasai’n “anghywir peidio gweithredu” er lles y bobol sydd ar restrau aros am organau yng Nghymru.

“Dylai symud at system o optio allan helpu i sicrhau cynnydd yn  nifer y bobl sy’n rhoi, a lleihad yn nifer y bywydau a gollir yn ddiangen,” meddai llefarydd Plaid Cymru ar iechyd, Elin Jones.

“Gwyddom o astudiaethau ac o brofiad uniongyrchol fod llawer o bobl fuasai’n hoffi rhoi organau, ond nad ydynt, efallai, wedi cofrestru i wneud.

“Nid yw’r system yn dwyn hawl yr unigolyn i benderfynu – os nad yw rhywun am roi organau, gall ddewis optio allan.

“Model newydd yw hwn, a dyna pam fod dadl gyhoeddus lawn mor bwysig,” meddai Elin Jones.