Mae timau Cwpan y Byd 2015 wedi cael eu tynnu o’r het a bydd Cymru yn yr un grŵp â Lloegr ac Awstralia.

Er bod tair blynedd i fynd tan Gwpan y Byd yn Lloegr mae eisoes yn argoeli i fod yn grŵp cystadleuol tu hwnt.

Ar ôl colli yn y funud olaf yn erbyn Awstralia ddydd Sadwrn cafodd Cymru eu rhoi yn nhrydydd dosbarth y detholion, ac felly roedd hi’n debygol y byddai Cymru yn rhannu’r grŵp gyda dwy wlad rygbi fawr.

Dyma fydd y tro cyntaf i Gymru a Lloegr fod yn yr un grŵp â’i gilydd yng Nghwpan y Byd, tra bod De Affrica a Samoa yn yr un grŵp â’i gilydd am y pedwerydd tro yn olynol.

Yn y seremoni yn Llundain brynhawn yma cafodd Dan Carter ei enwi gan y Bwrdd Rygbi Rhyngwladol yn chwaraewr y flwyddyn, a chyn-hyfforddwr Cymru Steve Hansen ei enwi yn hyfforddwr y flwyddyn.

Dyma grwpiau Cwpan y Byd 2015:

A: Awstralia, Lloegr, Cymru, Môr Tawel 1, Enillydd gêm ragbrofol

B: De Affrica, Samoa, Yr Alban, Asia 1, America 2

C: Seland Newydd, Yr Ariannin, Tonga, Ewrop 1, Affrica 1

D: Ffrainc, Iwerddon, Yr Eidal, America 1, Ewrop 2