Comisiynydd y Gymraeg
Mae Comisiynydd y Gymraeg yn ystyried cymryd camau yn erbyn papur newydd y Daily Mail, wedi iddyn nhw gyhoeddi darn barn gan Roger Lewis yr wythnos hon oedd yn honni fod yna Daliban Iaith yng Nghymru sy’n gormesu pobol di-Gymraeg.

Ond mae un gwleidydd Torïaidd amlwg wedi dweud mai camgymeriad fyddai ceisio cosbi’r Daily Mail.

Ar raglen CF99 ar S4C echnos fe ddywedodd y Comisiynydd bod erthygl Roger Lewis “yn hollol annerbyniol”.

“Fyswn i’n dweud ei fod yn agosau at fod yn hiliol, ac rydw i wedi cael fy siomi,” ychwanegodd Meri Huws.

Fe ddatgelodd y Comisiynydd ei bod hi a’i swyddogion “yn ystyried beth ddyla’r camau fod, ac ry’n ni’n anhygoel o anhapus gyda’r hyn rydan ni wedi ei weld yr wythnos yma.”

Mae golwg360 wedi gofyn i swyddfa’r Comisiynydd be’n union yw ei grymoedd o ran taclo’r Daily Mail, a dyma’r ateb:

“Mae edrych ar beth yn union yw ei grymoedd mewn perthynas ag achosion o’r fath yn rhan o’r trafodaethau y mae’r Comisiynydd yn eu cynnal yn fewnol ar hyn o bryd.”

Cyngor Glyn Davies

Mae un o Aelodau Seneddol Cymreig y Blaid Geidwadol wedi trydar ar y mater, gan gynghori’r Comisiynydd i anwybyddu’r Daily Mail.

Meddai Glyn Davies ar ei safle trydaru: ‘Disappointed if Welsh Lang Commissioner goes ‘legal’ over appalling D Mail Welsh Lang. Taliban article. Legal action only creates publicity.’

Ond mewn datganiad y bore yma mae Meri Huws wedi cadarnhau ei bod yn edrych ar ffyrdd o roi stop ar yr ymosodiadau ar siaradwyr y Gymraeg.

“Rydym ni wedi gweld newyddiaduraeth sy’n hollol annerbyniol yn y papurau Prydeinig yn ddiweddar, ac mae’n siom ac yn ddychryn i mi bod golygyddion y papurau hyn yn credu ei bod hi’n iawn iddynt gyhoeddi erthyglau sy’n agosáu at fod yn hiliol yn y ffordd y maent yn ymdrin â siaradwyr Cymraeg.

“Rwyf yn cynnal trafodaethau mewnol ar hyn o bryd ar ba gamau sy’n briodol i mi fel Comisiynydd eu cymryd er mwyn ceisio rhoi stop i olygyddion feddwl ei bod hi’n iawn i sarhau carfan o gymdeithas yn y fath fodd.”