Wylfa, Ynys Mon
Mae cwmni Hitachi o Siapan wedi cwblhau’r broses o brynu cwmni sydd yn datblygu atomfa niwclear newydd yn y Wylfa ar Ynys Môn.

Roedd cwmni Horizon yn fenter ar y cyd rhwng E.ON UK a RWE npower ac mae’r cwmni bellach wedi ei brynu yn swyddogol gan Hitachi. Mae Horizon wedi cadarnhau y bydd cynllun prentisiaeth yn parhau dan berchnogaeth Hitachi wrth i Gwmni Prentis Menai dderbyn £90,000 ychwanegol er mwyn cynnal y cynllun am drydedd flwyddyn.

“Mae’r pryniant yn diogelu dyfodol Horizon ac yn gyfle economaidd go iawn i Ogledd Cymru,” meddai Alan Raymant, Prif Swyddog Gweithredu Horizon.

“Bydd ein prosiect yn fuddsoddiad gwerth biliynau o bunnoedd a bydd yn creu tua 6,000 o swyddi adeiladu ar y cyfnod prysuraf a 1000 o swyddi gweithredol ar ôl cwblhau’r orsaf.”

Mae bwriad Hitachi i barhau gyda chodi atomfa newydd yn y Wylfa wedi cael ei groesawu gan Carwyn Jones, David Jones a chyngor Ynys Môn, ar sail cyfraniad yr atomfa at economi gogledd Cymru.

Ond mae ymgyrchwyr megis mudiad PAWB wedi rhybuddio rhag “Wylfa-shima” ar Ynys Môn, gan ddadlau fod ynni niwclear yn peryglu iechyd pobol a’r amgylchedd.

Prentisiaethau

Dywed Alan Raymant o Horizon ei fod “wrth ei fodd” yn cadarnhau trydedd flwyddyn o gyllid ar gyfer carfan o brentisiaid sy’n mynd trwy gynllun yn Coleg Menai.

“Y Coleg yw’r union fath o gyfleuster sydd ei angen arnom ni, a bydd yn helpu cenedlaethau o bobol ifanc yng Ngogledd Cymru i fanteisio ar y cyfleoedd a ddaw yn sgil gorsaf bŵer newydd,” meddai.

Yn gynharach eleni mynegodd Aelod Cynulliad Ynys Môn, Ieuan Wyn Jones, ei ddyhead i weld y cynllun prentisiaeth yn parhau yn Wylfa yn dilyn cyfarfod gyda chwmni Horizon.