Mae “Taliban Cymraeg” yn gormesu Cymru meddai newyddiadurwr a ddaeth i amlygrwydd y llynedd ar ôl disgrifio’r Gymraeg yn “iaith mwncis.”

Mewn erthygl yn y Daily Mail heddiw mae Roger Lewis yn dweud fod plant ysgol yn gwlychu eu hunain am nad ydyn nhw’n cael mynd i’r tŷ bach, a bod yr iaith wedi cael ei hadfer yn artiffisial diolch i drethdalwyr Lloegr.

Mae hefyd yn honni nad oes traddodiad bellach o siarad Cymraeg yn ne Cymru, ac nad oes sail hanesyddol i broses o “Gymreigio” Cymru. Dywed hefyd mai  xenophobia yw gwneud yr iaith Gymraeg yn amod am swydd.

Ymhlith honiadau eraill Roger Lewis, sy’n frodor o Fedwas ger Caerffili, dywed fod dyn ym Mangor wedi penderfynu cerdded adre yn lle mynd mewn i dacsi oedd â’r arwydd ‘taxi’ ar y to, a bod ceisiadau cynllunio yn cael eu gwrthod os ydyn nhw yn Saesneg.

Mae’r erthygl wedi ennyn ymateb cymysg ar gyfryngau cymdeithasol. Mae rhai yn chwyrn yn erbyn tra bod eraill yn trin yr erthygl yn ysgafn ac yn cyfeirio at “Hen Wlad Fy Intifadau.”