Mae dau berson lleol wedi cael eu hanafu yn ddifrifol mewn gwrthdrawiad rhwng tri cherbyd ar y Cob ym Mhorthmadog .

Digwyddodd y ddamwain am 3.20 brynhawn ddoe, ac mae dynes yn ei chwedegau a dyn yn ei ugeiniau yn dal yn yr ysbyty. Nid yw eu bywydau mewn peryg.

Mae Heddlu Gogledd Cymru yn apelio am dystion i’r ddamwain rhwng Peugeot 207 coch, Suzuki Splash du a Renault Scenic gwyrdd. Roedd y tri yn teithio i gyfeiriad Minffordd ar ochr ddeheuol y Cob.

“Hoffwn glywed gan unrhyw un oedd ar y Cob brynhawn ddoe ac a welodd y ddamwain,” meddai PC Dafydd Jones o Uned Plismona’r Ffyrdd yn Nolgellau.

Gall y cyhoedd ei ffonio ar 101, neu yn ddienw drwy ffonio Taclo’r Tacle ar 0800 555 111.