Gyda babi bach arall wedi cael ei ladd gan gi Jack Russell yn Telford, fe fydd Llywodraeth Cymru’n lawnsio mesur newydd i reoli cŵn.

Os caiff ei basio, fe fydd yn gorfodi pob perchennog i roi meicro-sglodyn ar gŵn ac yn rhoi llawer rhagor o rym i awdurdodau lleol tros gŵn sydd heb gael eu rheoli’n iawn.

Fe allai hynny gynnwys tjecio’r eiddo lle mae’r ci’n cael ei gadw, mynnu ei fod ar dennyn neu’n gwisgo mwgwd, ei wahardd rhag mynd i rai llefydd a’i sbaddu os yw’n gi gwryw.

‘Cefnogaeth’

Yn ôl y Gweinidog, John Griffiths, mae undeb y gweithwyr post a dau o’r prif elusennau cŵn yn cefnogi egwyddor y Bil Rheoli Cŵn (Cymru).

Mae’r Bil yn benna’ yn golygu cadw gwell gwybodaeth am gŵn a’u perchnogion a mwy o ffyrdd o ddelio gyda rhai anystywallt.

Fe fu farw Harry Bell a oedd yn wyth niwrnod oed ar ôl cael ei frathu unwaith gan gi Jack Russell ei daid a’i nain.