Anna Ryder Richardson (o wefan y parc)
Fe fydd un o berchnogion parc bywyd gwyllt yn cael ei ddedfrydu heddiw am droseddau iechyd a diogelwch ar ôl i fachgen tair oed gael ei frifo’n ddrwg.

Colin MacDougall, 46 oed, yw gŵr y gyflwynwraig a’r dylunydd teledu Anna Ryder Richardson a’r ddau ohonyn nhw sy’n berchnogion ar y Manor House Wildlife Park ger Dinbych-y-Pysgod.

Yn Llys y Goron Abertawe heddiw fe fydd yn wynebu cosb ar ôl pleidio’n euog i ddwy drosedd o dorri dorri  Deddf Iechyd a Diogelwch 1974.

Fe gafodd Gruff Davies-Hughes, 3, o Lanelli, anafiadau difrifol i’w ben ar ôl i gangen gael ei chwythu oddi ar goeden yn y parc a’i daro.

Ar un adeg, yn ôl adroddiadau ar y pryd, roedd y bachgen bach yn ymladd am ei fywyd ac fe gafodd ei fam, Emma Davies-Hughes, 28, hefyd anafiadau i’w choes, ei braich, ei phen a’i phelfis.

Yr achos

Ar ddechrau’r achos yr wythnos ddiwetha’, roedd Anna Ryder Richardson hefyd yn wynebu’r un dau gyhuddiad ond fe gafodd y rheiny eu gollwng ar ôl i Colin MacDougall bledio’n euog i’r cyhuddiadau yn ei erbyn ac i ddau gyhuddiad yn erbyn eu cwmni.

Fe arhosodd Anna Ryder Richardson gydag e yn y doc gan feichio crio ar ôl iddo bledio.

Roedd wedi ei ryddhau ar fechnïaeth ddiamod tan y gwrandawiad heddiw.