Tollau pont Hafren i godi 3.3%

Diweddarwyd am  


Mae tollau’r ddwy bont Hafren yn mynd i godi unwaith eto, meddai Llywodraeth Prydain.

Bydd ceir sy’n croesi’r ddwy bont o gyfeiriad Lloegr yn gorfod talu £6.20 o Ionawr 1, sy’n gynnydd o 3.3% ar y £6 mae’n ei gostio eleni.

Dywedodd y Gweinidog Trafnidiaeth yn San Steffan, Stephen Hammond, fod y doll ar gyfer faniau a bysiau mini yn mynd i godi o £12.10 i £12.40, a loris a bysiau mawr o £18.10 i £18.60.

“Bydd y tollau yn cael eu cadarnhau mewn gorchymyn gan yr Ysgrifennydd Gwladol yn Rhagfyr,” meddai.

Cafodd y cynnydd diweddaraf ei ddatgelu yn dilyn cwestiwn ysgrifenedig yn Nhŷ’r Cyffredin gan Aelod Seneddol Dwyrain Casnewydd, Jessica Morden.

Dywedodd Emma Watkins o CBI Cymru eu bod nhw am weld gostyngiad yn y tollau er mwyn hwyluso busnes yng Nghymru, ond eu bod nhw’n cydnabod y byddai’n bosib cyllido gwelliannau i’r M4 trwy’r tollau.

“Mae gennym ni agwedd ymarferol at dollau’r Hafren,” meddai.

Mae’r pontydd yn nwylo cwmni Severn River Crossing ar hyn o bryd ond mae disgwyl iddyn nhw gael eu trosglwyddo i ddwylo’r wladwriaeth yn 2017. Dylai’r doll ddisgyn yn sylweddol bryd hynny.

Yn gynharach eleni mynegodd Carwyn Jones ei ddyhead i weld y pontydd yn cael eu rhoi yn nwylo Llywodraeth Cymru, ac arian y tollau gostyngedig yn mynd i goffrau’r llywodraeth ym Mae Caerdydd.

Erthyglau perthnasol

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.

Rheolau Cyfrannu | Nodi Camddefnydd

Rheolau Cyfrannu

Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.

Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.

Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360 yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.

Iawn

Nodi Camddefnydd

Os ydych chi’n credu bod y neges yma’n torri rheolau’r wefan, cliciwch ar y faner nodi camddefnydd sy’n ymddangos wrth sgrolio dros unrhyw sylwad. Os bydd tri pherson yn anhapus, bydd y neges yn dod yn ôl at Golwg360 i’w ddilysu.

Iawn

Anrhydeddau Gorsedd y Beirdd 2019