Mae’r Goruchaf Lys wedi penderfynu yn unfrydol fod Bil cyntaf y Cynulliad Cenedlaethol yn gyfreithlon ac o fewn pwerau’r Cynulliad.

Roedd y Twrnai Cyffredinol yn Llundain wedi cyfeirio’r Bil Is-ddeddfau Llywodraeth Leol i’r llys gan ddadlau ei fod yn mynd y tu hwnt i bwerau deddfu’r Cynulliad, ond penderfynodd y barnwyr o blaid safbwynt Llywodraeth Cymru.

“Mae’n gadarnhad bod Llywodraeth Cymru yn llygad ei lle,” meddai Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones tra dywedodd Llywydd y Cynulliad, Rosemary Butler, fod y dyfarniad yn “fuddugoliaeth i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.”

Roedd y Bil yn dweud y dylai awdurdodau lleol Cymru gael mwy o hawl i wneud is-ddeddfau mewn rhai meysydd.

Yn ôl Llywodraeth Prydain, doedd ganddyn nhw ddim hawl i wneud hynny, gan y byddai’n mynd â grym oddi ar weinidogion San Steffan i wrthod neu gymeradwyo is-ddeddfau.

David Jones: ‘Nid gelyniaeth oedd y tu ôl i gyfeirio’r Bil’

Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David Jones, fod y Twrnai Cyffredinol yn “hollol gymwys” i gyfeirio’r Bil i’r Goruchaf Lys a’i fod yn “ddiolchgar i’r Goruchaf Lys am ddarparu eglurder ar y mater.”

“Cafodd y mater ei gyfeirio er mwyn gosod yn glir ffiniau setliad datganoli Cymru, ac nid er mwyn ymyrryd gyda bwriadau polisi Llywodraeth Cymru,” meddai.

“Ni ddylai cyfeirio materion at y Goruchaf Lys gael ei ystyried yn beth gelyniaethus, yn hytrach mae’n fecanwaith er mwyn sicrhau fod datganoli yn gweithio’n llyfn,” meddai David Jones.

Carwyn Jones: ‘Angen eglurder ar bwerau deddfu’

Dywedodd Prif Weinidog Cymru ei fod am weld pwerau deddfu’r Cynulliad yn cael eu gwneud yn fwy eglur, fel yn yr Alban a Gogledd Iwerddon.

“Fel rhan o’n tystiolaeth i Gomisiwn Silk byddwn yn dadlau’n gryf o blaid ailgyfansoddi setliad datganoli Cymru ar sail pwerau wrth gefn,” meddai Carwyn Jones.

“Mantais hynny yw y byddai’n lleihau’r gwahaniaethau rhwng setliadau datganoli’r DU, ac yn sicrhau ein bod gryn dipyn yn llai tebygol o orfod ymddangos gerbron y Goruchaf Lys yn y dyfodol.”

Plaid Cymru: ‘achos wedi dangos gwendid y setliad datganoli’

Dywedodd llefarydd cyfansoddiadol Plaid Cymru, Ieuan Wyn Jones, fod yr achos “wedi amlygu gwendid y setliad sydd gennym yng Nghymru,” a galwodd yntau hefyd am eglurder dros yr hyn gall y Cynulliad ddeddfu arno, a’r hyn na all.

“Mae angen i ni symud yn gyflym at fodel o ‘bwerau wrth gefn’ sy’n gosod yn glir beth sydd heb ei ddatganoli,” meddai Ieuan Wyn Jones.

“Gall y Cynulliad felly fynd ymlaen â’i waith ym meysydd iechyd, addysg a llywodraeth leol.”

Sustem yn rhy gymhleth medd y Dems Rhydd

Yn ôl Eluned Parrott, llefarydd cyfansoddiadol y Democratiaid Rhyddfrydol, mae’r system bresennol yn “llawer rhy gymhleth.”

“Mae hwn yn brawf pellach bod angen i ni ystyried symud i ffwrdd oddi wrth fodel broblematig Peter Hain o ddatganoli, tuag at rhywbeth sy’n nes at fodel yr Alban,” meddai.

“Yn hytrach na San Steffan yn dweud beth gall Cymru ddeddfu arno, dylwn ni gael system sy’n dweud beth na all Cymru ddeddfu arno. Mae’r sustem yna wedi gweithio yn esmwyth yn yr Alban ers 1999 a ni fu unrhyw her gyfreithiol.”

Dywedodd fod hwn yn bwnc y dylai ail ran Comisiwn Silk edrych arno.