Mae Aelod Cynulliad Ynys Môn wedi dweud fod y newydd fod cwmni bwydydd Vion am werthu eu safleoedd ym Mhrydain yn “bryderus iawn.”

Mae Vion yn berchen ar ladd-dy Welsh Country Foods yn y Gaerwen a dywed Ieuan Wyn Jones ei fod yn “poeni am y swyddi all gael eu colli yma, yn ogystal â’r effeithiau dilynol ar ffermwyr a chyflenwyr.”

“Mae gan Ynys Môn broblemau diweithdra mawr yn barod, ac mae angen i Lywodraeth Cymru wneud popeth yn ei gallu i gadw swyddi yma.”

Dywed cwmni bwydydd Vion NV eu bod nhw am “ganolbwyntio ar y farchnad graidd yn yr Iseldiroedd a’r Almaen a datblygu’r busnes cynhwysion byd-eang.”

Mae’r cwmni yn cyflogi 13,000 o bobol ar 38 safle ym Mhrydain, sy’n cynnwys safle prosesu dofednod yn Sandycroft ar Lannau Dyfrdwy a safle brosesu cigoedd ym Merthyr Tudful.

‘Ansicrwydd’

Mynegodd Aelod Cynulliad Plaid Cymru dros Ddwyrain De Cymru, Jocelyn Davies, ei phryder dros ddyfodol y gwaith ym Merthyr Tudful ac anogodd y llywodraeth i gwrdd â Vion er mwyn ceisio diogelu swyddi a “datrys yr ansicrwydd.”

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Tra bod y cwmni wedi cyhoeddi ei fwriad i adael y farchnad yn y DU – a gwerthu ei fusnesau yng Nghymru, maen nhw wedi cadarnhau bod buddiannau’r gweithwyr yn y safleoedd sy’n cael eu heffeithio yn hynod bwysig.

“Ry’n ni wedi gweithio’n agos gyda’r cwmni ac fe fyddwn yn gweithio gydag unrhyw brynwyr posib i gynnig unrhyw gymorth sy’n berthnasol gan Lywodraeth Cymru i sicrhau dyfodol y safleoedd yng Nghymru.”

Mae Cadeirydd Vion UK, Peter Barr, wedi dweud fod “lefel y diddordeb yn y busnes yn gryf a gobeithiwn y byddwn mewn safle yn y dyfodol agos i roi mwy o wybodaeth am y datblygiad sydd wedi ei wneud.”

“Bydd y broses o werthu’r busnes yn cael ei wneud mewn modd llyfn a threfnus fel bod dilyniant busnes i’n gweithwyr, cyflenwyr a chwsmeriaid,” meddai.