Winston Roddick, Comisiynydd newydd Gogledd Cymru
Oherwydd camgymeriadau’r Llywodraeth, roedd cost pob pleidlais yn etholiadau Comisiynwyr Heddlu yng Nghymru dros £34.
Dyna gasgliad y Gymdeithas Ddiwygio Etholiadau ar ôl mesur cyfanswm y gost a nifer y pleidleisiau. Maen nhw’n dweud bod hon yn enghraifft o “sut i beidio â chynnal etholiad”.
Mae hynny fwy na deg gwaith yn ddrutach na chost pob pleidlais mewn Etholiad Cyffredinol a bron deirgwaith y gost yn etholiadau’r Comisynwyr Heddlu yn Lloegr.
Y gost fesul ardal
Y pleidleisiau yn ardal Heddlu Gogledd Cymru oedd ddruta’ – dyma’r rhestr:
Gogledd Cymru – £46.48
Dyfed-Powys – £45.62
De Cymru – £24.44
Gwent – £21.94
‘Camgymeriadau’
Yn ôl Cyfarwyddwr y Gymdeithas, roedd y problemau’n cynnwys bythau pleidleisio gwag a gorfod ail-argraffu papurau er mwyn cael rhai dwyieithog.
“Yr wythnos ddiwetha’ oedd yr enghraifft amlyca’ o sut i beidio â chynnal etholiad,” meddai Steve Brooks.
“Dyma economeg y Swyddfa Gartref ar ei gwaetha’; gwneud dim byd am fisoedd ac ya sbloeg ychydig ddyddiau cyn y bleidlais i wneud iawn am eich camgymeriadau.
“Mae crafu pob ceiniog gyda’r pethau pwysig – fel gwybodaeth i bleidleiswyr – wedi anfon costau’r etholiadau yma trwy’r to.”