owe
Owen Smith
Mae Prif Weinidog Cymru wedi datgan mai gostwng trethi, nid eu cynyddu nhw, fyddai nod Llywodraeth Cymru.

Ac mae’r llefarydd Llafur ar Gymru yn Nhŷ’r Cyffredin wedi gwrthod y syniad o roi ychydig o hawliau treth incwm i’r llywodraeth yng Nghaerdydd.

Doedd hi ddim yn glir y byddai mân newidiadau o les i economi Cymru na’i phobol, meddai Owen Smith mewn cyfweliad ar Radio Wales.

Fe rybuddiodd hefyd y byddai angen gwario arian er mwyn gweinyddu unrhyw drethi newydd.

‘Dim datganoli sylweddol’

Roedd yn ymateb i argymhellion Comisiwn Silk, sydd wedi argymell datganoli rhywfaint o drethi llai a rhywfaint o dreth incwm.

Yn ôl Owen Smith, doedd y Comisiwn ddim yn sôn am ddatganoli sylweddol ar dreth incwm ac, felly, doedd yr argymhellion ddim yn datrys y cwestiwn o bwerau a chyfrifoldeb.

Mae datganiad Carwyn Jones yn cael ei weld yn ymgais i geisio tawelu pryderon am drethi o fewn y gymuned fusnes.