Gwenda Thomas
Mae “pryderon difrifol” wedi cael eu mynegi mewn adroddiad heddiw ynglŷn â gwasanaethau cymdeithasol i blant yng Nghastellnedd Port Talbot.
Dyma’r trydydd adroddiad i gael ei gyhoeddi mewn dwy flynedd gan yr Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC).
Dywedodd Imelda Richardson, prif weithredwr, AGGCC, ei bod yn pryderu am y diffyg cynnydd sydd wedi bod i fynd i’r afael â’r problemau sylweddol yn y gwasanaethau cymdeithasol i blant yn y ddwy flynedd ddiwethaf.
O ganlyniad i’r canfyddiadau, mae Imelda Richardson wedi hysbysu’r awdurdod lleol am ei phenderfyniad i weithredu protocol Llywodraeth Cymru ar gyfer ymateb i’r pryderon.
Ychwanegodd: “Rwyf wedi cyfarfod â’r Prif Weithredwr ac mae’n deall bod angen newid sylweddol ym mherfformiad y gwasanaethau cymdeithasol i blant a bod angen iddo sicrhau bod yr holl gamau angenrheidiol yn cael eu cymryd i wella’r gwasanaethau hyn yn gyflym iawn.
“Rydym wedi cytuno ar dargedau gwella a bydd AGGCC yn cynnal ymweliadau bob tri mis i fonitro perfformiad a chynnydd o ran eu cyflawni.”
Dywedodd bod sail i bryderon difrifol yn y meysydd canlynol:
- methiant aml i fodloni’r gofynion statudol;
- methiant o ran diogelu pobl sy’n agored i niwed rhag niwed posibl;
- · tanberfformio’n gyson ar ddangosyddion allweddol;
ac ym meysydd staffio a rheoli:
- diffyg staff addas mewn swyddi allweddol;
- diffyg canllawiau a rheoli ansawdd effeithiol.
Ymateb Gwenda Thomas
Wrth ymateb i’r adroddiad dywedodd Gwenda Thomas, y dirprwy weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol, ei fod yn dangos bod “heriau sylweddol” yn dal i wynebu’;r awdurdod.
Roedd penderfyniad Imelda Richardson i weithredu protocol Llywodraeth Cymru yn “fater difrifol iawn” meddai.
Ond ychwanegodd bod y camau hyn yn cael eu cymryd er mwyn ceisio gwella safonau a chaniatáu i’r awdurdod gefnogi ei staff er mwyn cael y canlyniad gorau ar gyfer plant a’u teuluoedd.
“Dydw i ddim yn mynd i ganiatáu i wasanaethau i blant ostwng islaw safonau derbyniol. Rydw i wedi cwrdd ag arweinydd a phrif weithredwr yr awdurdod i wneud hyn yn glir.”
Dywedodd ei bod am weld gwelliannau sylweddol yn fuan.