Stephen Doughty (chwith) yn canfasio gyda Carwyn Jones (o'i wefan)
Fe lwyddodd Llafur i ddal ei gafael yn gyfforddus ar sedd seneddol De Caerdydd a Phenarth.

Ond dim ond chwarter y pleidleiswyr a drafferthodd fynd i’r bythau wrth i Stephen Doughty gynyddu ei gyfran o’r bleidlais a maint ei fwyafrif.

Yr union ffigwr pleidleisio oedd 25.65%, ymhell dan hanner y ganran yn yr Etholiad Cyffredinol, pan enillodd Alun Michael, sydd bellach yn gobeithio bod yn Gomisiynydd Heddlu De Cymru.

Roedd yna symudiad o fwy nag 8% yn y pleidleisiau oddi wrth y Ceidwadwyr at Lafur, a gafodd bron hanner y cyfanswm a mwyafrif o 5,334.

Roedd yna gynnydd hefyd yng nghanran Plaid Cymru, UKIP a’r Gwyrddion.

Yn ei araith wedi’r canlyniad, fe ddywedodd Stephen Doughty fod y canlyniad yn dangos “gwrthwynebiad clir” i bolisïau Llywodraeth y Glymblaid yn San Steffan.

Y canlyniad

Stephen Doughty (Llafur) 9,193

Craig Williams (Ceidwadwyr) 3,859

Bablin Molik (Democratiaid Rhyddfrydol) 2,103

Luke Nicholas (Plaid Cymru) 1,854

Simon Zeigler (UKIP) 1,179

Anthony Slaughter (Gwyrdd) 800

Andrew Jordan (Llafur Sosialaidd) 235

Robert Griffiths (Comiwnyddion) 213