Theo Huckle (o wefan ei gwmni)
Mae Cwnsler Cyffredinol y Llywodraeth wedi cefnogi galwad y Prif Weinidog am gael barnwr o Gymru ar fainc y Llys Goruchaf.

Mae’n annerbyniol mai Cymru yw’r unig ran o’r Deyrnas Unedig sydd heb gynrychiolaeth yn y llys, meddai Theo Huckle.

“Ddylai’r sefyllfa honno ddim cael parhau,” meddai mewn araith yn Llundain neithiwr. “Pa un ai a fyddwn yn awdurdodaeth gyfreithiol ar wahân i Gymru ai peidio.”

Roedd yn ailadrodd galwad a wnaed yr wythnos ddiwetha’ gan Carwyn Jones mewn araith yn y London School of Economics.

Y Llys Goruchaf sydd wedi disodli Tŷ’r Arglwyddi yn y gwaith o benderfynu’n derfynol ar achosion ac ef sy’n penderfynu ar hyn o bryd a yw rhai o ddeddfau’r Cynulliad yn ddilys ai peidio.

Roedd Theo Huckle hefyd yn cyhuddo’r Weinyddiaeth Gyfiawnder o “droi clust fyddar” at ei geisiadau i gael cynrychiolaeth  statudol o Gymru  ar y Comisiwn Penodiadau Barnwrol.