Mae adroddiadau fod y gorsafoedd pleidleisio wedi bod yn dawel iawn heddiw ac mae’r  Gymdeithas Newid Etholiadol wedi dweud fod paratoadau’r llywodraeth at etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu wedi bod yn “shambls.”

Gydag adroddiadau fod ambell i orsaf heb weld yr un pleidleisiwr cyn 10 o’r gloch y bore, dywed Owain Llŷr ap Gareth o’r Gymdeithas Newid Etholiadol fod anallu’r llywodraeth yn Llundain i ddarparu gwybodaeth i’r cyhoedd, a’r helynt dros bapurau pleidleisio dwyieithog, wedi cyfrannu at drefniadaeth sâl.

“Dydyn ni ddim yn gwrthwynebu dod â phŵer yn nes at y bobol ond rhaid iddyn nhw wybod beth maen nhw’n pleidleisio drosto,” meddai.

“Mae’r etholiadau yma wedi bod yn un siambls ar ôl y llall, ac os bydd y tyrnowt yn druenus o isel fe fydd yn codi cwestiynau am fandad y comisiynwyr, ac am barodrwydd yr heddlu i wrando ar rywun sydd heb dderbyn llawer o gefnogaeth gan y cyhoedd.”

Dim mandad’

Mae’r cyn Ysgrifennydd Cartref, David Blunkett, hefyd wedi dweud y byddai lefel y bleidlais o lai na 15% yn tanseilio mandad y Comisiynwyr wrth iddyn nhw ddisodli’r hen Awdurdodau Heddlu.

Yn ôl Llywodraeth Prydain, sydd wedi gwthio’r newid, fe fydd pobol yn dangos mwy o ddiddordeb ar ôl gweld yn union beth mae’r Comisiynwyr yn gallu’i wneud.

Roedd y Gymdeithas Newid Etholiadol wedi proffwydo y byddai 18.5% o’r etholwyr yn pleidleisio, a fyddai’n is na’r tyrnowt isaf erioed y tu allan i gyfnod rhyfel, sef 23% yn etholiadau Ewropeaidd 1999.

“Mae’r Swyddfa Gartref wedi gweithredu yn ôl y dybiaeth ‘os yr adeiladwch chi ef, fe ddaw’r bobol’”, meddai Katie Ghose, Prif Weithredwr y Gymdeithas Newid Etholiadol.

“Nid yw democratiaeth yn gweithio fel yna. Mae camgymeriadau wedi bod bob cam o’r ffordd a dylai’r rheiny sy’n gyfrifol gael eu dal i gyfrif am hynny,” meddai.

Bydd y gorsafoedd pleidleisio ar agor heno tan 10 o’r gloch, a bydd y cyfrif yn dechrau ym mhedwar rhanbarth Cymru am 9 bore fory.