Mae rhiant o Sais sy’n anfon ei ferch i ffrwd Gymraeg wedi dweud bod angen i Gyngor Ceredigion fod yn “agored a thryloyw” dros ei bolisi Cymraeg yn yr ysgolion.

Yn ôl Paul Williams o Aberteifi mae ymateb y cyngor i honiadau dienw ar wefan BiLingo wedi bod yn “fflat.”

Ymhlith yr honiadau oedd bod plant yn cael eu hatal rhag mynd i’r tŷ bach os nad ydyn nhw’n gofyn yn Gymraeg.

“Mae rhieni eisiau gwybod fod y math yma o ymddygiad ddim yn digwydd o fewn ysgol eu plant nhw,” meddai Paul Williams, sy’n anfon ei ferch i Ysgol Gynradd Aberteifi. Mae bwriad yr ysgol i gael gwared ar y ffrwd ddwyieithog a throi’n ysgol Gymraeg wedi codi gwrychyn rhai rhieni yn ne Ceredigion.

“Os yw’r honiadau yma ar y wefan yn wir yna mae’n ofidus iawn,” meddai Paul Williams.

“Ond hoffwn i wybod pwy ydy’r bobol tu ôl y wefan yma. Ai rhyw ddau berson sy’n corddi neu ydyn nhw’n fudiad o gant o rieni? Dydyn ni ddim yn gwybod.”

Mae’n ymddangos fod gwefan BiLingo wedi cael ei chwtogi heddiw, ac nid yw’n derbyn sylwadau bellach, er bod lle i anfon sylwadau yn syth at Gomisiynydd Plant Cymru.

Mae darn oedd yn honni fod Dafydd Elis-Thomas yn gefnogwr i ymgyrch BiLingo wedi diflannu, ac mae’n ymddangos fod cyfrif Twitter yr ymgyrch wedi ei atal am y tro.

Mae’r honiadau ar wefan BiLingo wedi cael sylw eang yn y wasg Gymreig a Phrydeinig, ac mae Comisiynydd Plant Cymru Keith Towler wedi dweud y bydd yn ymateb i’r pryderon gafodd eu codi.