Hag Harris
Mae papurau newydd, rhaglenni brecwast y rhwydwaith a rhaglenni newyddion y BBC yng Nghymru wedi bod yn rhoi sylw mawr i feirniadaeth ddienw ar bolisi iaith adran addysg Ceredigion.

Mae gwefan o’r enw BiLingo yn cynnwys honiad fod plant yn cael eu hatal rhag mynd i’r tŷ bach os nac ydyn nhw’n gofyn yn Gymraeg.

Does dim enwau na thystiolaeth bendant yn cael eu cynnwys ar y wefan ond mae’r awdur neu awduron yn dweud bod ffeil wedi ei hanfon at Gomisynydd Plant Cymru.

BiLingo

Dyw hi ddim yn glir ai unigolyn neu grŵp sydd y tu cefn i BiLingo ond mae’r wefan yn dweud ei bod yn cynnig fforwm i rieni fynegi eu gofidiau a bod tystiolaeth wedi ei chasglu o sawl ardal.

Yn ôl Radio Wales, dydyn nhw ddim wedi gallu siarad gyda neb y tu cefn i’r wefan ond maen nhw wedi gohebu trwy e-bost.

Mae llefarydd Ceredigion ar addysg, y Cynghorydd Hag Harris, yn  dweud y byddai’n synnu’n fawr pe bai’r honiadau’n gywir.

Y cefndir

Mae’r wefan yn ymateb i fwriad Ceredigion i gael gwared ar ffrwd ddwyieithog yn ysgol gynradd  Aberteifi a’i throi’n ysgol Gymraeg.

Yn ôl y Cyngor, fe fu gostyngiad yn nifer y plant oedd yn cael eu hanfon i’r ffrwd ddwyieithog.

Mae’r honiadau’n debyg i rai a wnaed gan y gwleidydd Llafur Neil Kinnock yn erbyn ysgol yn Ynys Môn yn yr 1970au.