Fe agorodd y bythau pleidleisio ar gyfer Comisiynwyr yr Heddlu am saith y bore yma ond fe fydd mwy o sylw ar faint y bleidlais nac ar y canlyniadau.

Erbyn 22 Tachwedd, fe fydd y pedwar swyddog newydd yn dechrau ar eu gwaith yn gosod cyfeiriad a strategaeth ar gyfer pedwar heddlu Cymru a 37 arall yn Lloegr.

Mae’r gornestau’n amrywio, gyda nifer o ymgeiswyr annibynnol yn cynnig mewn tair ardal ond dim ond cynrychiolwyr Llafur a’r Ceidwadwyr yn Nyfed Powys.

Eisoes mae sylwebwyr a gwleidyddion yn rhybuddio y gallai lefel y bleidlais fod cyn ised â 15% ac, yn ôl y cyn Ysgrifennydd Cartref, David Blunkett, fe fyddai hynny’n tanseilio mandad y Comisiynwyr wrth iddyn nhw ddisodli’r hen Awdurdodau Heddlu.

Yn ôl Llywodraeth Prydain, sydd wedi gwthio’r newid, fe fydd pobol yn dangos mwy o ddiddordeb ar ôl gweld yn union beth mae’r Comisiynwyr yn gallu’i wneud.