David Jones
Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru wedi dweud fod y gostyngiad yn nifer y diwaith yng Nghymru  yn “dangos fod economi Cymru yn gwella” a bod Cymru yn perfformio’n well na rhannau eraill o Brydain.

Ond mae’r pleidiau eraill wedi rhybuddio rhag bod yn hunanfodlon gyda’r ffigurau diweddaraf, a ddangosodd fod 5,000 yn llai yn ddi-waith yng Nghymru yn y chwarter hyd at fis Medi.

Dywedodd David Jones fod y sector preifat yn dechrau “cynhyrchu twf yng Nghymru.”

“Mae’r buddsoddiad gan gwmni technoleg Hitachi o Siapan mewn gorsaf niwclear newydd yn y Wylfa ar Ynys Môn wedi cael ei groesawu’n eang ac mae’n dangos fod Cymru yn lle da i fuddsoddi,” meddai David Jones.

“Wrth gwrs bod digon i’w wneud ond mae’r ffigurau yma’n dangos ein bod ni’n iawn i gydbwyso economi’r wlad trwy ganolbwyntio ar gwtogi’r diffyg ariannol a rhoi rhyddid i fusnesau ddatblygu.”

Ond dywedodd Gweinidog Busnes y Cynulliad, Edwina Hart, fod “polisi llywodraeth Prydain o dorri gwariant ddim yn gweithio.”

Dywedodd hi fod y ffigurau heddiw yn galonogol i Gymru ond bod dal llawer i wneud i gryfhau perfformiad economaidd Cymru. Dywedodd hi fod rhai o gynlluniau Llywodraeth Cymru, megis Twf Swyddi Cymru a rhaglen i gefnogi busnesau newydd, wedi arwain at greu dros 10,000 o swyddi.

Diweithdra yn ‘drasiedi bersonol’ i bobol

Rhybuddiodd Eluned Parrott, llefarydd busnes y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, rhag bod yn hunanfodlon gyda’r ffigurau diweddaraf. Dywedodd fod arwyddion bod yr economi yn gwella ond roedd bod allan o waith yn “drasiedi bersonol” i bob person di-waith a bod angen gwneud mwy i helpu pobol i gael gwaith.

Pwysleisiodd Plaid Cymru mai’r gyfradd diweithdra yng Nghymru – 8.2% – yw’r uchaf o blith pedair gwlad y Deyrnas Unedig, sydd â chyfartaledd o 7.8%.

“Gan Gymru y mae graddfa ddiweithdra uchaf gwledydd y DG ac y mae bron i 50,000 yn fwy o bobl yn chwilio am waith yng Nghymru nawr nac oedd bum mlynedd yn ôl pan gychwynnodd y dirwasgiad,” meddai llefarydd Plaid Cymru ar yr economi, Alun Ffred Jones.

“Mae diweithdra ymysg ieuenctid yn broblem benodol, gyda Chymru eto a chyfradd uwch o ddiweithdra ymysg ieuenctid na gwledydd eraill y DG.

“Mae Plaid Cymru yn falch o chwarae ei rhan yn helpu pobol ifanc yn ôl i waith gyda’n cynllun i greu hyd at 10,000 o brentisiaethau, gan roi gobaith iddynt i’r dyfodol.

“Cred Plaid Cymru hefyd y dylem gael lefelau uwch o gaffael lleol o’r sector cyhoeddus yng Nghymru, a buddsoddi mewn gwario ar seilwaith ysgolion, ysbytai a ffyrdd. Bydd y ddau beth yma yn creu mwy o swyddi ac yn rhoi gwell hwb i economi Cymru,” meddai Alun Ffred Jones.