Carl Sargeant
Ardal Caerdydd sy’n elwa fwya’ o’r cyhoeddiad cynta’ am raglen newydd Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael â thlodi.

O’r 12 Clwstwr Trechu Tlodi sy’n cael eu cyhoeddi heddiw, mae pedwar yn y brifddinas, pedwar yn ardal y cyngor drws nesa’, Caerffili, ac un ym Mro Morgannwg.

Mae dwy arall yn Sir y Fflint ac un yng Ngwynedd ac fe fydd rhagor yn cael eu cyhoeddi yn ystod yr wythnosau nesa’.

Arian tair blynedd

Fe fydd y deuddeg yn derbyn cyfanswm o £19 miliwn rhwng hyn a diwedd 2015 er mwyn datblygu dulliau cymunedol o ddelio â thlodi.

Dyna chwarter yr arian yn yr holl gynllun, sy’n rhan o ymgais y Llywodraeth i ddiwygio rhaglen Cymunedau’n Gyntaf ar ôl beirniadaeth sylweddol arni.

Mae 52 o ardaloedd i gyd yn gymwys i wneud cais am arian ac, yn ôl y Llywodraeth, fe fydd y cyfan o’r clystyrau yn eu lle yn gynnar y flwyddyn nesa’.

Fe addawodd y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau, Carl Sargeant, y byddai’r Llywodraeth yn casglu gwybodaeth am berfformiad y clystyrau ac yn ei chyhoeddi.

Datganiad y Gweinidog

“Bydd y rhaglen, drwyddi draw, yn gwneud cyfraniad pwysig at Gynllun Gweithredu Llywodraeth Cymru i Drechu Tlodi,” meddi Carl Sargeant, AC Glannau Dyfrdwy.

“Ryden ni wedi asesu pob un o’r ceisiadau yn ofalus er mwyn sicrhau bod modd gwario’r gyfran uchaf bosibl o’r gyllideb ar ddarparu prosiectau mewn cymunedau lleol, yn hytrach nag ar gostau gweinyddol.”

“Cynnwys y gymuned fydd prif nod y rhaglen o hyd. Rydym yn awyddus i weld mwy o drigolion lleol yn cymryd rhan yn y rhaglen Cymunedau yn Gyntaf, felly mae pob Clwstwr wedi datblygu Cynllun Cynnwys y Gymuned i wneud yn siŵr fod hynny’n digwydd.”