‘Cyfle i atal clefyd y coed’

 


Mae Gweinidog Amgylchedd Cymru’n dweud bod cyfle i atal clefyd yr ynn rhag lledu ymhellach yng Nghymru.

Ond mae wedi rhybuddio hefyd efallai bod rhagor o safleoedd lle mae coed wedi eu heffeithio.

Fe ddatgelodd John Griffiths fod bron 350 o staff y Comisiwn Coedwigaeth wedi cynnal arolwg systematig o goedwigoedd trwy Gymru, cyn dod o hyd i un safle yn Sir Gaerfyrddin lle’r oedd coed claf.

Bellach, meddai, maen nhw’n canolbwyntio ar ddod o hyd i ragor o safleoedd posib  lle mae coed ynn wedi eu plannu’n ddiweddar ac fe ddylai’r arolwg hwnnw fod wedi’i orffen o fewn wythnos.

Cyfle

Dwy ffordd amlwg sydd yna o ledu’r clefyd – trwy blannu coed newydd a thrwy sborau’n cael eu gwasgaru.

Mae’r cyfle i atal y clefyd yn dod oherwydd adeg y flwyddyn – yn ystod mis Gorffennaf ac Awst y mae sborau’r clefyd yn cael eu gwasgaru.

Gan fod dail coed ynn bellach wedi cwympo, mae yna lai o debygrwydd hefyd y bydd y clefyd yn cael ei gario o un lle i’r llall, meddai John Griffiths.

Coed wedi eu mewnforio yn 2009 oedd yn y safle preifat yn Sir Gaerfyrddin ond, yn ôl John Griffiths, gan eu bod nhw’n goed ifanc, mae gobaith o gyfyngu’r clefyd trwy wahardd symud planhigion oddi yno.

Cydweithio

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn gweithio gydag adrannau yn Lloegr a’r Alban i geisio atal y clefyd – trwy atal mewnforio coed ynn, arafu ymlediad y clefyd a chynyddu gallu coed brodorol i wrthsefyll y clefyd.

Yn ôl John Griffiths, dyw clefydau o’r fath ddim yn parchu ffiniau ac mae angen gweithredu ar y cyd.

Erthyglau perthnasol

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.

Rheolau Cyfrannu | Nodi Camddefnydd

Rheolau Cyfrannu

Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.

Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.

Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360 yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.

Iawn

Nodi Camddefnydd

Os ydych chi’n credu bod y neges yma’n torri rheolau’r wefan, cliciwch ar y faner nodi camddefnydd sy’n ymddangos wrth sgrolio dros unrhyw sylwad. Os bydd tri pherson yn anhapus, bydd y neges yn dod yn ôl at Golwg360 i’w ddilysu.

Iawn

Cofio Eirwyn Pontsiân – darlith Lyn Ebenezer