Mae tafarn ym Mhwllheli wedi cael gorchymyn  i gau am dri diwrnod ar ôl gwerthu alcohol i bobl dan oed.

Dyma’r eildro i dafarn Penlan Fawr yn y dref werthu alcohol i rai dan 18 oed o fewn y 3 mis diwethaf.

Fe benderfynodd tafarnwr Penlan fawr i dderbyn y gosb o gau’r tafarn am gyfnod yn hytrach na chael ei erlyn dan Ddeddf Trwyddedu 2003.

Fe fydd Penlan Fawr ar gau rhwng 5pm dydd Gwener, 16 Tachwedd a 5pm dydd Llun, 19 Tachwedd 2012.

Cosbau

Mae Heddlu Gogledd Cymru ynghyd ag  Adran Trwyddedu Cyngor Gwynedd wedi bod yn cynnal ymgyrch yn ardal Pwllheli rhwng mis Gorffennaf a Hydref 2012 i ddarganfod pa dafarndai sydd wedi bod yn gwerthu alcohol i bobl dan oed.

Mae nifer o dafarnwyr eisoes wedi cael cosbau sefydlog o £80 ac mae tafarnwr arall sydd wedi cael ei ddal am y trydydd tro  yn wynebu cael ei erlyn.

Dywedodd y Rhingyll Steve Edge: “Mae hyn yn enghraifft o’r ffordd y mae’r heddlu a’i bartneriaid yn awyddus i barhau i orfodi’r ddeddfwriaeth trwyddedu er mwyn cyflawni ein hamcanion penodol o amddiffyn plant rhag niwed a lleihau troseddau ac anrhefn sy’n gysylltiedig ag alcohol ar strydoedd Pwllheli a’r ardal gyfagos.

“Mae’r ffaith bod y dafarn hon yn gorfod cau yn dystiolaeth o’r safiad yr ydym yn parhau i’w gymryd o ran troseddau trwyddedu, ond mae hefyd yn enghraifft o ymgais i weithio mewn partneriaeth â daliwr y drwydded a wnaeth dderbyn yr hysbysiad cau i gyflawni ein hamcanion.”