Clawr llyfr newydd Cyw
Mae gwasanaeth Cyw S4C yn un o bedwar ar restr fer i dderbyn gwobr BAFTA Plant Prydain.

Ddiwedd y mis byddan nhw’n cystadlu efo CBBC, Cbeebies a CiTV yn y categori ‘Sianel y Flwyddyn’.

Llyfr a dvd ac app

Fe fydd Cyhoeddiadau Sain, ar y cyd ag S4C, Boom Plant a gyda chymorth ariannol Cyngor Llyfrau Cymru, yn rhyddhau Hwyl gyda Cyw a’i Ffrindiau.

Mae’r llyfr lliwgar yn cynnig oriau o ddifyrrwch i rai bach:

  • straeon,
  • gemau,
  • posau
  • sticeri,
  • a DVD gyda rhai o hoff ganeuon Cyw hefyd.

Mae Cyw yn wasanaeth digidol, modern sy’n cynnwys rhaglenni teledu, rhaglenni ar wefan Cyw, ac apps y gellir eu lawr lwytho. Fe fydd y llyfr a’r DVD o ganeuon Cyw yn caniatáu i blant fwynhau eu hoff raglen mewn dau gyfrwng ychwanegol y Nadolig hwn.

“Mae Sain yn hynod o falch o gyhoeddi ail lyfr Cyw ar gyfer y Nadolig,” meddai Dafydd Roberts, Prif Weithredwr cwmni Sain. “Mae’n braf gallu ychwanegu at gynnyrch y cymeriad sydd wedi profi’n boblogaidd dros ben.”