Mae’r rhan fwyaf o bobl a gafodd eu holi ynglyn a marw â chymorth o blaid hynny, yn ol ymchwil rhyngwladol newydd.
Mae hyn yn groes i’r ymchwil diweddar sy’n awgrymu bod meddygon y DU yn gyson yn gwrthwynebu ewthanasia.
Cafodd dros 62,000 o bobl o wahanol wledydd eu holi ar gyfer y gwaith ymchwil. Mae’r canlyniadau’n dangos am y tro cyntaf bod gan bobl o wahanol gefndiroedd a phrofiadau safbwynt tebyg iawn am y pwnc.
Prifysgol Bangor fu’n gyfrifol am gasglu’r wybodaeth ar gyfer y gwaith ymchwil.
Roedd yr adolygiad diweddar o ymchwil gwrthgyferbyniol yn awgrymu bod meddygon y DU yn gwrthwynebu ewthanasia a hunanladdiad â chymorth meddyg yn gyson. Roedd meddygon yn ystyried bod darparu gofal lliniarol yn bwysig o ran lleihau dioddefaint a’r angen am farw gyda chymorth.
‘Rhoi llais i farn y mwyafrif’
Dywed y brifysgol bod ffactorau seico-emosiynol fel bod yn ddibynnol, bod yn ddiobaith, colli urddas, unigrwydd, colli hunaniaeth a bod yn faich ar bobl eraill ar ddiwedd oes mor bwysig â phoen ac yn gwneud i bobl ystyried hunanladdiad â chymorth.
Roedd pobl eisiau cael ymreolaeth a rheolaeth fel y gallen nhw ddewis yr amser iawn i farw.
Roedd yr ymchwil yn cynnwys barn pobl o wahanol wledydd a chrefyddau, yn cynnwys y cyhoedd yn gyffredinol a’r rhai oedd yn dioddef afiechydon sy’n byrhau bywyd fel canser, AIDS a MS a phobl gydag anableddau a’u gofalwyr, ac o wledydd a thaleithiau lle mae statws cyfreithiol amrywiol i farw â chymorth.
Dywedodd Maggie Hendry a arweiniodd yr ymchwil yng Nghanolfan Ymchwil Gofal Sylfaenol Gogledd Cymru ym Mhrifysgol Bangor: “Am y tro cyntaf, rydym yn rhoi llais i farn y mwyafrif ar y pwnc hwn. Yn y cyfryngau, mae’r ddadl yn ymddangos fel pe bai wedi canolbwyntio ar farn y proffesiwn meddygol a’u cynghorwyr cyfreithiol, grwpiau crefyddol ac ychydig o achosion proffil uchel”.
‘Parchu safbwynt’
Ychwanegodd yr Athro Clare Wilkinson o Ganolfan Ymchwil Gofal Sylfaenol Gogledd Cymru: “Mae ein gwaith yn tynnu sylw at farn gyffredin nifer fawr o bobl, yn cynnwys pobl o Brydain. Mae’n rhaid i’r proffesiwn meddygol gydnabod a pharchu’r safbwynt hwn gan y mwyafrif hyd yn oed os nad ydynt yn cytuno ag ef.”
Y prif reswm oedd yn ysgogi pobl i ystyried marw â chymorth oedd dioddefaint annioddefol a sut oedd hynny’n effeithio ar ansawdd bywyd. Ond roedd sut yr oedd hyn yn cael ei ddiffinio yn dibynnu ar eu safbwynt a’u profiad. Roedd y cyhoedd yn gyffredinol yn dychmygu mai poen difrifol na ellid ei drin oedd y prif reswm i gyfiawnhau marw â chymorth. Roedd y bobl oedd yn sâl neu wedi dioddef o gyflwr sy’n byrhau bywyd yn fwy tebygol o nodi er y gellid helpu poen gyda dulliau da o leddfu poen, nid oedd gofal lliniarol yn gallu lliniaru’r agweddau eraill.