Meirion Prys Jones - ef oedd yn arfer bod yn gyfrifol am awdurdodi Cynlluniau Iaith
Mae cyn-Brif Weithredwr Bwrdd yr Iaith Gymraeg wedi derbyn dirwy o dros £300 am beidio ag ymateb i wysion a anfonwyd ato yn uniaith Saesneg gan Heddlu Dyfed-Powys.

Roedd Meirion Prys Jones gerbron llys ynadon Caerfyrddin heddiw, ar gyhuddiad o or-yrru (35 milltir yr awr mewn ardal 30).

Mewn llythyr at y llys, roedd Meirion Prys Jones, a fu’n bennaeth y cwango a fu’n gyfrifol am awdurdodi Cynllun Iaith Heddlu Dyfed-Powys a Gwasanaethau Llysoedd  a Thribiwnlysoedd Ei Mawrhydi, yn rhestru’r ohebiaeth uniaith a dderbyniodd.

“Ganol mis Medi derbyniais lythyr gan Wasanaethau Llysoedd a Thribiwnlysoedd EM yn nodi fy mod wedi fy ngwysio i ymddangos o flaen Llys Ynadon Llanelli. Roedd y llythyr hwn yn uniaith Saesneg,” meddai.

“Yn atodedig roedd gwŷs wedi ei dyddio 14 Awst 2012… Mae’r wŷs hon yn cynnig i mi ‘Dewis Laith’(sic). Mae gwasanaeth y Llysoedd wedi fy sicrhau y caiff hwn ei newid pan gyhoeddir fersiwn newydd o’r ddogfen.

“O ran y ddogfen hysbysiad: Profi Drwy Ddatganiad Ysgrifenedig, o ran fy newis iaith, sef y Gymraeg, nid yw’r ddogfen wedi ei harwyddo! Felly fe gyfyd y cwestiwn cyfreithiol a yw’r ddogfen hon, yn yr achos hwn, yn ddilys?

“Ynghlwm wrth y wŷs fe geir hefyd ddogfen a elwir yn Tystysgrif Adran 20, sydd yn nodi’r cyhuddiad yn fy erbyn. Unwaith eto, ar wahân i’r pennawd, mae’r ddogfen hon yn uniaith Saesneg, nid fy newis iaith!

“Rwy’n tynnu eich sylw at hyn i gyd fel un a fu am rai blynyddoedd yn gyfrifol am gytuno cynlluniau iaith gyda chyrff cyhoeddus ledled Cymru,” meddai Meirion Prys Jones wedyn.

“Fe wnaeth y drefn o gynlluniau iaith weddnewid tirwedd ieithyddol Cymru, am hynny nid oes gennyf amheuaeth, ond cynlluniau i’w gweithredu ydynt i fod ac nid hanner eu gweithredu.

“Maent hefyd yn ddogfennau statudol ac felly yn rhan o’r drefn o gyfraith gwlad. Felly nid y fi yn unig sydd o flaen fy ngwell heddiw, ond hefyd Heddlu Dyfed Powys a Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EM.

“Mae arna’ i ofn nad yw eu perfformiad ar sail hyn oll yn ddigon da nac, yn fy marn i, yn cynnig trefn lawn sy’n gweinyddu cyfiawnder mewn dewis iaith heb sôn am ddangos parch at ddefnyddwyr y Gymraeg.”