Mae nifer y ceffylau a’r merlod sy’n cael eu gollwng i bori’n rhydd ar ymyl ffyrdd wedi dod yn broblem dros y blynyddoedd diwetha’, a dyna pam fod Dirprwy Weinidog Amaeth, Llywodraeth Cymru, wedi gwneud datganiad ar y pwnc heddiw.

“Mae’r broblem wedi bod yn cynyddu mewn sawl ardal yng Nghymru, ond yn enwedig ar hyd coridor traffordd yr M4,” meddai Alun Davies.

“Mae’r anifeiliaid, ar y cyfan, yn amhosib eu hadnabod, a does dim posib dod o hyd i’w perchnogion. Maen nhw’n ymddangos yn ddirybudd, ac yn pori’n ddwys, ac yna’n diflannu yr un mor sydyn ag y daethon nhw.

“Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod y broblem, a’i bod hi’n broblem sy’n creu dioddefaint diangen i’r ceffylau a’r merlod eu hunain hefyd,” meddai wedyn.

“Fe fydd Llywodraeth Cymru yn gweithredu er mwyn rheoli, a chael gwared â’r broblem.”

Cymryd camau

  • Mae Alun Davies wedi cynnal trafodaethau â swyddogion o’r heddluoedd perthnasol ynglyn â’r mater;
  • Fe fydd datganiad pellach ar y mater yn ddiweddarach y mis hwn, yn cymryd i ystyriaeth hefyd farn y cynulliad o berchnogion ceffylau a ddaeth ynghyd i drafod y pwnc ym mis Medi eleni;
  • Mae Alun Davies yn gobeithio cyhoeddi argymhellion ar gyfer mesurau y gall eu gweithredu mor fuan â 2013.