Mae mudiad Hybu Cig Cymru yn cynnal dau ddigwyddiad er mwyn ceisio tynnu sylw at yr afiechydon sydd fwya’ tebygol o daro defaid a da byw.

Fe fydd cyfarfod ym Marchnad y Trallwng ar Dachwedd 20 yn canolbwyntio ar y dolur rhydd sy’n cael ei adnabod trwy’r tair llythyren, BVD.

Yna, yn y Plough Inn, Rhosmaen, Llandeilo, bydd sylw hefyd i’r amodau a’r clefydau sy’n gallu peri i ddefaid erthylu.

Beth yw BVD?

Mae BVD yn achosi problemau ymarferol ac ariannol i ffermwyr da byw, gan fod yr afiechyd yn gallu achosi erthygl mewn gwartheg, ynghyd ag anffrwythlondeb a pherfformiad gwael.

Mae’n bresennol mewn 90% o wartheg llaeth ac eidion yng ngwledydd Prydain.

Erthylu mewn defaid

Mae erthylu yn costio dros £30m i’r diwydiant defaid bob blwyddyn. Dan sylw yn y cyfarfod yn Rhosmaen, fydd y cyflwr Toxoplasmosis ac erthylu enswtig – y ddau beth sy’n achosi erthylu mewn defaid.