Mae hi yr un mor bwysig i blant bach yng nghefn gwlad Cymru gael diod o lefrith yn yr ysgol bob bore, ag yw hi i blant y ddinas.

Dyna oedd y tu ôl i ddatganiad gan Aelod Seneddol Ceredigion, Mark Williams, mewn dadl yn Nhy’r Cyffredin neithiwr.

Wrth annerch y Ty yn ystod y ddadl ar ymgynghoriad Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar ddyfodol y cynllun sy’n darparu llaeth ar gyfer meithrinfeydd ar hyd a lled gwledydd Prydain, dywedodd Mark Williams: “Fe fues i ar ymweliad â meithrinfa yn Aberystwyth yn ddiweddar ar Ddiwrnod Rhyngwladol Llaeth, ac fe welais yno y budd maethlon y mae plant ifanc yn ei gael ma’s o ddiod o laeth bob bore.

“Mae’n bwysig nad yw plant yng Ngheredigion yn colli mas oherwydd eu bod nhw’n byw mewn ardal wledig.

“Yn y ddogfen ymgynghorol gan Dairy UK, mae Ceredigion yn cael ei defnyddio fel enghraifft o ardal wledig a allai golli allan dan y cynllun, ac mae hynny’n achos o bryder i mi.

“Rwy’n gobeithio y bydd y Llywodraeth yn ystyried yr ymatebion i’r ddogfen hon yn ofalus iawn, cyn penderfynu ar ddarpariaeth y llaeth.”