Mae ystadegau blynyddol ar ansawdd dwr ymdrochi yng Nghymru wedi eu cyhoeddi heddiw, ac maen nhw’n dangos fod 97% o’r dyfroedd yn cyrraedd safonau Ewropeaidd, a’u tri chwarter (75%) yn cyrraedd safonau llymach.

Er hynny, mae’r canlyniadau ychydig is na’r disgwyl – a hynny oherwydd faint o law sydd wedi syrthio yn ystod yr ha’ eleni.

Eleni oedd y trydydd ha’ gwlypa’ ers dechrau cadw cofnod o’r tywydd yng Nghymru, ac mae’r glawiad wedi effeithio ar ansawdd dwr ymdrochi ym mhob rhan o wledydd Prydain.

“Mae safon y dyfroedd yng Nghymru wedi gwella’n ddramatig dros yr 20 mlynedd diwetha’,” meddai Chris Mills, Cyfarwyddwr Asiantaeth yr Amgylchgedd Cymru.

“Er y glawiad uchel, mae ansawdd tri chwarter y dwr ar ein traethau wedi cynnal y safon, ac wedi cyrraedd y safon Ewropeaidd ucha’ o ran glendid.

“Fe fydd y rhicyn Ewropeaidd yn cael ei godi eto yn y dyfodol, a dyna pam ein bod ni’n buddsoddi mewn adnoddau sy’n datgelu llygredd.

“R’yn ni’n dal i gynghori Dwr Cymru, ffermwyr a phobol yn gyffredinol ar sut y gallan nhw wella ansawdd dwr ymdrochi yng Nghymru.”

Tri thraeth yn methu â chyrraedd y nod

Mae tri thraeth wedi methu â chyrraedd y safon ar gyfer dwr ymdrochi – sef Cricieth; West Shore, Llandudno; a’r Rhyl. Mae Asiantaeth yr Amgylchedd yn ymchwilio i’r methiannau hyn.