Fe fydd NFU Cymru yn rhybuddio Pwyllgor Dethol Ty’r Cyffredin rhag blwyddyn arall o “lanast fel 2012”.

Ddydd Iau, fe fydd yr undeb ffermwyr yn rhoi tystiolaeth yn San Steffan fel rhan o’r ymchwiliad i ddyfodol ffermydd llaeth.

“Mae digwyddiadau’r ha’ hwn wedi bod yn drobwynt,” meddai Dirpwy Lywydd NFU Cymru, Stephen James.

“Mae penderfyniad y proseswyr i dorri prisiau llaeth wedi denu diddordeb mawr ac wedi arwain at benawdau breision yn y wasg.

“Tra’u bod nhw wedi penderfynu peidio â thorri prisiau, mae dyfodol tymor-hir a chynaladwyedd y diwydiant yn dal yn y fantol.

“Y prif broblem dros nifer o flynyddoedd ydi fod ffermwyr llaeth wedi methu â chael prisiau teg, er bod prisiau cynnyrch llaeth yn codi’n gyflym. Er hynny, pan mae prisiau’r farchad yn cwympo, mae’r taliad i’r ffermwyr hefyd yn cwympo.

“Mae hyn yn ganlyniad amlwg i’r modd y mae cytundebau llaeth wedi bod yn ecsploitio’r ffermwyr.”